Rydych chi ar: Y dudalen help fideo

Nod ein help fideo yw eich cynorthwyo i ddeall sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyfrifo eich asesiad ardrethu.


Sut y cyfrifir eich bil (3 munud)

Mae'r fideo hwn yn dangos yn glir yr hyn a ddefnyddir i gyfrifo faint yn union rydych yn ei dalu mewn ardrethi busnes.

Trawsgrifiad Fideo

Fel arfer tua mis Mawrth bob blwyddyn - ac i gyd-daro � dechrau'r flwyddyn ariannol - mae cynghorau lleol yn anfon eu biliau ardrethi busnes blynyddol allan. Mae llawer o bobl yn gofyn sut y cyfrifir eu bil. Felly efallai y gallaf roi eglurhad cyflym i chi. Yn syml, cyfrifir eich bil gan ddefnyddio tair elfen allweddol: Yn gyntaf, y gwerth ardrethol a bennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Yn ail, y lluosydd cenedlaethol a bennir gan lywodraeth ganolog. Ac yn drydydd, unrhyw ryddhad a reoleiddir gan lywodraeth ganolog ond a gymhwysir gan y cyngor lleol. Gadewch i ni ystyried y gwerth ardrethol yn gyntaf. Hwn yw asesiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio o werth rhentu blynyddol eiddo ar ddyddiad penodol - sef 1af Ebrill 2008 ar hyn o bryd - ceir fideos eraill ar y wefan hon sy'n egluro sut rydym yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar fathau gwahanol o eiddo. Nawr gadewch i ni ystyried y lluosydd cenedlaethol. Caiff hwn ei leihau yn dilyn ailbrisiad i sicrhau bod cyfanswm y cynnyrch cenedlaethol o ardrethi busnes yn parhau i fod yr un fath ac yna mai dim ond yn unol � chwyddiant y bydd yn newid bob blwyddyn.

Mae'r lluosydd yn cynrychioli nifer y ceiniogau ymhob punt o'r gwerth ardrethol a fydd yn daladwy mewn ardrethi busnes cyn cymhwyso unrhyw ryddhad. Felly, er enghraifft, os mai �10,000 yw eich gwerth ardrethol a'r lluosydd yw 41.3 ceiniog, yna'r bil cyn rhyddhad fyddai �4,130. Nid yw'r Llywodraeth yn casglu unrhyw refeniw ychwanegol o ganlyniad i'r ailbrisio hwn - ei ddiben yw cynnal tegwch y system ardrethu drwy ailddosbarthu cyfanswm y bil ardrethi cenedlaethol, gan ystyried unrhyw newidiadau perthnasol i werthoedd eiddo dros amser. Gallwch weld y lluosyddion presennol ar gyfer Cymru a Lloegr yn adran help y wefan hon. Yn olaf ceir rhyddhad, gyda Rhyddhad Trosiannol a'r Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ymhlith y mathau mwyaf cyffredin. Gallwch edrych ar wefan eich cyngor lleol i weld pa fathau o ryddhad y gallech fod yn gymwys i'w hawlio. Yn ogystal, os ydych eisoes yn gwybod eich gwerth ardrethol, gallwch gael syniad o'ch bil tebygol drwy ddilyn y dolenni perthnasol ar wefan businesslink.gov.uk i weld drosoch eich hun.


Sut rydym yn prisio tafarnau (2 funud)

Er mwyn cael prisiad teg o dafarnau, rydym yn ystyried lefelau masnach. Mae'r fideo hwn yn dangos yr hyn rydym yn rhoi ystyriaeth iddo.

Trawsgrifiad Fideo

Os ydych yn rhedeg tafarn, yna cyfrifir eich gwerth ardrethol drwy ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar dderbyniadau. Gyda siopau, er enghraifft, rydym yn cyfrifo'r gwerth ardrethol drwy gasglu tystiolaeth rentu o amryw o eiddo tebyg yn gyntaf, ac yna'n cymhwyso hyn i faint yr eiddo a'i nodweddion eraill. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio dull ychydig yn wahanol gyda thafarnau i gyfrifo gwerth rhentu blynyddol, sef y sail ar gyfer y gwerth ardrethol. Mae hyn oherwydd bod gwerth rhentu'r math hwn o eiddo yn seiliedig ar ei drosiant posibl. Gallwch weld diffiniad llawnach o werth ardrethol yn adran help y wefan hon. Felly dyma'r hyn a wnawn. Rydym yn casglu gwybodaeth gan ddeiliaid ynglyn �'u derbyniadau masnachu a'u patrymau masnachu. Yna rydym yn defnyddio hyn i bennu lefel o 'fasnach gynaliadwy deg' ar y dyddiad prisio penodol.

Fel y gwyddoch o bosibl, masnach gynaliadwy deg yw'r dull prisio a ddefnyddir amlaf yn y farchnad i bennu rhenti tafarnau. Rydym yn defnyddio'r system hon fel y gallwn gyfrifo gwerthoedd ardrethol busnesau fel eich un chi mewn modd teg a chyson. Unwaith y pennir y lefel hon o fasnach gynaliadwy deg, rydym yn cymhwyso canran a bennwyd o ddadansoddiad o'r rhenti a dalwyd ar gyfer eiddo tebyg i gyfrifo'r gwerth ardrethol. Gallwch weld yr ystodau o ganrannau a ddefnyddir gennym yn y Canllaw Cymeradwy ar gyfer Prisio Tafarndai, y cytunwyd arnynt gyda Chymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain. Gallwch weld copi o'r Canllaw yn adran help y wefan hon.


Sut rydym yn prisio gan ddefnyddio rhenti (2 funud)

Mae'r fideo hwn yn egluro sut y caiff y rhan fwyaf o eiddo - siopau, swyddfeydd, safleoedd diwydiannol ac ati - eu prisio yn y ffordd hon.

Trawsgrifiad Fideo

Fel minnau, ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn penderfynu ar werth ardrethol eich eiddo?

Mae'n broses weddol syml mewn gwirionedd. Mae'r broses yn seiliedig ar y gwerth rhentu blynyddol. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyfrifo gwerth rhentu blynyddol eich siop, swyddfa, warws neu ba eiddo bynnag fel petai ar osod ar y farchnad agored ar 1af Ebrill 2008. Gwneir hyn ni waeth p'un a ydych yn berchen ar yr eiddo neu'n ei rentu. Defnyddir hyn fel y gwerth ardrethol. Ac er mwyn gwneud hyn mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn casglu cymaint o dystiolaeth � phosibl o'r rhenti gwirioneddol y cytunwyd arnynt o amgylch y dyddiad prisio hwn, gan wneud addasiadau ar gyfer telerau prydles megis cyfrifoldeb am atgyweiriadau ac yswiriant a chyfnodau di-rent, ynghyd � newidiadau i'r farchnad dros amser. Ac os yw rhai rhannau o'r eiddo yn fwy gwerthfawr o ran rhenti nag eraill, er enghraifft mae storfa yn llai gwerthfawr na swyddfa - rhoddir ystyriaeth i hyn hefyd.

Mae hyn oll yn sicrhau y gwneir popeth mewn modd teg a chyson ac mae'n rhoi darlun da i Asiantaeth y Swyddfa Brisio o lefel y rhenti a delir mewn ardal ar gyfer mathau gwahanol o eiddo - oll wedi'i ddadansoddi i bunnoedd fesul metrau sgw�r. O hyn gallant bennu'r gwerthu rhentu fesul metr sgw�r y dylid ei ddefnyddio i brisio pob eiddo. Yna mae'n fater syml o luosi'r gwerth rhentu fesul meter sgw�r � maint yr eiddo - gan ystyried eto bod rhai rhannau yn fwy gwerthfawr neu'n llai gwerthfawr nag eraill - er mwyn cael cyfanswm y gwerth rhentu a ddefnyddir fel gwerth ardrethol, a dyna ni. Wrth gwrs, mae'n broses lawer mwy cymhleth i'r syrfewyr cymwysedig proffesiynol sy'n gweithio i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac sy'n cyflawni'r prisiadau hyn, ond o leiaf mae hyn yn rhoi syniad i chi o'r drefn.


Sut rydym yn mesur eich eiddo (2 funud)

Mae'r fideo hwn yn rhoi darlun i chi o'r hyn rydym yn rhoi ystyriaeth iddo er mwyn cael y mesuriadau cywir

Trawsgrifiad Fideo

Sut yn union mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn mesur eich eiddo?

I ddechrau, gellir eich sicrhau chi fod y mesuriad yn cydymffurfio � chod Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Ac, fel y cyflogwr syrfewyr mwyaf yn y Deyrnas Unedig, caiff ein staff hyfforddiant proffesiynol a'r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn sicrhau cywirdeb a chysondeb ar bob adeg. O ran mesur eiddo annomestig, rydym yn defnyddio dau ddull: - yr arwynebedd mewnol net, neu NIA, a ddefnyddir yn fwyaf aml ar gyfer mesur siopau a swyddfeydd - a'r arwynebedd mewnol gros, neu GIA, a ddefnyddir ar gyfer safleoedd diwydiannol. Nid yw'r dull mesur a ddefnyddir yn golygu bod y gwerth ardrethol yn uwch nac yn is oherwydd defnyddir yr un dull mesur cyson drwy gydol y broses brisio ar gyfer yr un math o eiddo. Gan ddechrau gyda'r arwynebedd mewnol net, mae'r dull hwn yn mesur yr arwynebedd defnyddiadwy o fewn adeilad, heb gynnwys pethau fel toiledau, cypyrddau glanhau, colofnau, grisiau mewnol ac ati.

Fe welwch y caiff y rhan fwyaf o swyddfeydd a siopau bach a chanolig eu maint eu mesur gan ddefnyddio'r dull arwynebedd mewnol net. Ar y llaw arall, mae'r dull arwynebedd mewnol gros yn mesur holl arwynebedd yr adeilad sydd wedi'i amg�u o fewn y muriau allanol, yn cynnwys waliau mewnol a pharwydydd, toiledau, colofnau, lifftiau, grisiau mewnol ac ati, ond nid yw'n cynnwys yr arwynebedd awyr agored megis balcon�au, terasau, allanfeydd t�n, meysydd parcio ac unrhyw ardal lle mae uchder y nenfwd yn is nag un metr a hanner. Yn aml iawn byddwn yn rhannu'r arwynebedd mewnol gros cyffredinol fel bod gennym fesuriadau gwahanol ar gyfer rhannau o'r adeilad sydd o ansawdd gwahanol ac a ddefnyddir at wahanol ddibenion. Er enghraifft, ar y cyfan byddwn yn dangos yr ardal gynhyrchu a'r swyddfeydd gweinyddol o fewn ffatri ar wah�n. Os oes gennych eiddo manwerthu, mae hefyd yn werth chweil gwylio ein fideo Pennu Ardal ar y safle hwn.


Sut mae pennu ardal yn gweithio (2 funud)

A ydych wedi eich drysu gan ardal A, ardal B, ac ati? Mae'r fideo hwn yn rhoi eglurhad syml.

Trawsgrifiad Fideo

Pan gefais fy mhrisiad gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, nid oeddwn yn deall pam ei bod yn dweud bod fy siop yn cynnwys ardal A, ardal B ac ati. Felly rhoddais alwad iddynt, ac ar �l siarad gyda nhw, mae'n gwneud synnwyr. Felly gadewch i mi egluro. Gwyddom fod unrhyw beth sydd naill ai'n helpu neu'n cyfyngu ar eich gwerthiannau - fel maint neu si�p y siop - yn cael dylanwad ar ei werth rhentu. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn defnyddio proses o bennu ardal i ystyried ffactorau o'r fath - ac yn wir hon yw'r ffordd safonol y caiff gwerth rhentu siopau ei bennu ar y cyfan. Edrychwn ar y sefyllfa fel hyn - ydych chi'n gweld ffenestr fy siop? Honno yw'r ardal fwyaf gwerthfawr. Rwy'n ei defnyddio i ddenu cwsmeriaid a dangos iddynt yr hyn sydd gennyf i'w gynnig. Felly ffrynt fy siop yw ardal A.

Ar y cyfan, mae pob ardal yn cwmpasu lled eich siop ac yn mynd yn �l i ddyfnder o 6.1 metr, neu 20 troedfedd. Nawr dewch i mewn i weld canol llawr y siop. Mae gennyf gryn dipyn o stoc yma, ond mae'n rhaid i bobl fod y tu mewn i'w weld, ac felly nid yw'r ardal hon mor werthfawr. Felly hon yw ardal B, ac mae hanner mor werthfawr ag ardal A. Ac ydych chi'n gweld yr ardal yn y cefn lle rydw i'n cadw gweddillion a phethau dros ben? Yr ardal honno sy'n denu'r nifer lleiaf o gwsmeriaid, felly dyna ardal C, ac mae hanner mor werthfawr eto ag ardal B. Os yw eich siop yn ymestyn yn �l ymhellach nag ardal C - h.y. mwy na 18.3 metr - yna caiff yr ardal hon ei dosbarthu fel y gweddill ac mae hanner mor werthfawr ag ardal C. Roedd hynny oll yn weddol syml, ond drwy ddefnyddio'r broses o bennu ardal gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio ystyried holl feintiau a siapiau gwahanol siopau wrth bennu prisiau rhentu. Gellir gweld manylion pellach o ran sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn mesur mewn fideo ar wah�n ar y wefan hon o'r enw 'Sut rydym yn mesur�.

Wrth gwrs ni ddefnyddir y broses o bennu ardal ar gyfer pob siop. Er enghraifft, caiff archfarchnadoedd mawr neu siopau adrannol eu prisio ar bris cyffredinol fesul metr sgw�r. Ond defnyddir y broses o bennu ardal ar gyfer siopau stryd fawr fel fy un i, yn cynnwys siopau trin gwallt, y rhan fwyaf o fwytai, siopau betio a banciau. A dyna'r hyn sydd angen i chi ei wybod am y broses o bennu ardal. Mae'n gwneud synnwyr, onid yw e?

Beth i'w wneud nesaf

Chwilio yn yr adran help

Chwilio