Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn un o Asiantaethau Gweithredol Cyllid a Thollau EM (HMRC). Mae HMRC yn Rheolwr Data (Rhif cofrestru: Z9034148) o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
Mae hyn yn golygu bod gan VOA ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu cyfrinachedd gwybodaeth y trethdalwr. Rydym yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei chyflwyno i ni, naill ai'n electronig neu ar bapur, yn unol â deddfwriaeth fel Deddf Diogelu Data 1998.
- Rydym yn cadw gwybodaeth at ddibenion trethi a rhai swyddogaethau statudol eraill fel y cânt eu pennu gan y Senedd. Gall y wybodaeth sydd gennym gael ei defnyddio ar gyfer unrhyw un o swyddogaethau VOA.
- Gallwn gael gwybodaeth amdanoch gan gyrff sector cyhoeddus eraill, megis adrannau eraill y llywodraeth ac asiantaethau ac awdurdodau lleol. Gallwn gymharu gwybodaeth a gawn ganddynt hwy a gennych chi, â'r wybodaeth sydd gennym eisoes.
- Gallwn roi gwybodaeth i adrannau eraill y llywodraeth ac i asiantaethau ac awdurdodau lleol ond dim ond os yw'r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny, er mwyn sicrhau cywirdeb gwybodaeth, atal neu ganfod trosedd a diogelu arian cyhoeddus.
Ein gwefan a'ch preifatrwydd chi
Mae rhai tudalennau ar y wefan hon yn gofyn i chi gyflwyno gwybodaeth yn weithredol (fel pan fyddwch yn apelio yn erbyn gwerth ardrethol eich eiddo). Cewch wybod pa wybodaeth sydd ei hangen a beth sy'n ddewisol ar bob cam.
Efallai y bydd peth o'r wybodaeth hon yn bersonol (gwybodaeth sy'n berthnasol i chi yn unig, megis eich enw llawn, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn, ac ati). Byddwn ond yn casglu gwybodaeth o'r fath pan fyddwch yn dewis ei rhoi i ni, a byddwn yn ei diogelu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Rydym hefyd yn defnyddio ffeiliau cofnodi a gynhyrchir gan ein gweinyddion rhyngrwyd i ddadansoddi defnydd o'r safle ac ystadegau, ond nid yw'r ffeiliau'n nodi unrhyw wybodaeth bersonol. Mae dadansoddi drwy ddefnyddio ffeiliau cofnodi yn ein helpu i ddeall patrymau o ran sut y defnyddir ein gwefan ac i wella ein gwasanaeth.
