
Rydych chi ar y: Gwybodaeth am VOA
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn un o Asiantaethau Gweithredol Cyllid a Thollau EM (HMRC). Mae gennym dros 80 o swyddfeydd ledled Cymru, Lloegr a'r Alban ac rydym yn cyflogi tua 4,000 o staff.
Mae gwaith VOA yn cynnwys y canlynol:
- casglu a chynnal rhestri o werthoedd ardrethol ar gyfer 1.7 miliwn o eiddo annomestig yn Lloegr a 100,000 yng Nghymru, i gefnogi'r broses o gasglu ardrethi busnes
- casglu a chynnal rhestri o fandiau ar gyfer tua 23 miliwn o eiddo domestig yn Lloegr ac 1.3 miliwn yng Nghymru, i gefnogi'r broses o gasglu treth gyngor
- pennu lwfans tai lleol ar draws 153 o Ardaloedd Marchnad Rhentu Eang yn Lloegr, darparu tua 714,000 o asesiadau rhentu at ddibenion budd-dal tai a chofrestru tua 78,000 o renti teg o dan Ddeddf Rhenti 1977
- rhoi cyngor ar faterion prisio eiddo i Weinidogion
- rhoi cyngor a gwasanaethau sy'n ymwneud â phrisio i Lywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth yr Alban
- rhoi cyngor ar brisio i HMRC mewn perthynas â threth enillion cyfalaf, treth etifeddiant a gwaith cydymffurfio arall
- darparu ystod o wasanaethau prisio statudol ac anstatudol a gwasanaethau arolygu ystadau i lywodraeth ganolog, llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus ehangach.