
Rydych chi ar y: dudalen Help
Sut y bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ymdrin â'ch apêl ffurfiol
Mae apêl yn erbyn gwerth ardrethol yn dechrau drwy wneud cynnig i newid y rhestr ardrethu. Mae'r broses yn rhad ac am ddim.
Cyn gwneud cynnig, gallwch gysylltu â'ch swyddfa brisio leol i drafod eich gwerth ardrethol ac i drafod pam eich bod am apelio yn ei erbyn. Efallai y byddwn yn gallu datrys y mater heb i chi orfod dilyn gweithdrefn ffurfiol.
Ceir amlinelliad byr o'r weithdrefn ar gyfer apelio sy'n cynnwys dolenni i'r ffurflen gynnig ar-lein a beth fydd y camau nesaf.
Sut rydym yn ymdrin â'ch apêl
Rydym yn ymrwymedig i ddelio â phob apêl mewn ffordd deg, ac rydym yn dilyn y broses a nodir isod. Byddwn bob amser yn ceisio datrys apêl drwy ei thrafod â chi.
Mae tri cham i'r broses:
- Cyflwyno apêl
- Trafodaeth ffurfiol a darparu tystiolaeth
- Mynd i'r Tribiwnlys Prisio
Cyflwyno apêl
Gallwch gyflwyno apêl ar-lein, neu gysylltu â'ch Swyddfa Brisio leol i ofyn am ffurflen.
Pan fyddwn wedi derbyn eich apêl byddwn yn ei chydnabod fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith ac yn rhoi rhif achos i chi.
Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod yr apêl yn ddilys. Golyga hyn y byddwn yn gwneud yn siŵr bod y ffurflen gynnig wedi'i llenwi'n gywir ac y gallwn dderbyn y rheswm dros wneud cynnig. Nid yw'n golygu y byddwn yn derbyn bod y gwerth ardrethol yn anghywir.
- Os yw'r apêl yn annilys, byddwn yn eich hysbysu fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith i'w chael.
- Os bydd yr apêl yn ddilys, efallai y byddwn yn trefnu ymweliad â'r eiddo i wneud yn siŵr bod y manylion cywir gennym.
- Gallwch hefyd wirio manylion yr eiddo sydd gennym a gofynnwn i chi roi gwybod i ni am unrhyw anghysondebau cyn gynted â phosibl.
Rydym yn ceisio datrys pob apêl yn brydlon, yn arbennig os oes tystiolaeth o galedi ariannol.
Mae tri math o gynnig lle rydym yn ymrwymedig i wneud penderfyniad o fewn deufis:
- Newidiadau ffisegol i'r eiddo
- Newidiadau o ran daliadaeth sy'n gofyn am werthoedd ardrethol newydd
- Eithriad o ardrethi busnes.
Yn yr achosion hyn, os na ellir datrys eich apêl o fewn deufis yna byddwn yn penderfynu, yn seiliedig ar bob achos unigol, ar y camau nesaf.
Bydd eich apêl naill ai'n:
- cael ei chynnwys mewn rhaglen i'w thrafod yn ffurfiol
- cael ei hanfon i'r Tribiwnlys Prisio i gael ei rhestru ar gyfer gwrandawiad.
Caiff pob achos arall ei drafod yn unigol ond byddwn yn dwyn ynghyd apeliadau ar gyfer eiddo tebyg neu gysylltiedig, mewn ardal ddaearyddol benodol, mewn 'rhaglenni'. Mae'r rhaglenni hyn yn caniatáu cyfnod penodol o amser i gynnal trafodaethau ac yn nodi dyddiad dechrau a dyddiad targed ar gyfer y trafodaethau hynny. Maent yn ein helpu i ddelio ag apeliadau'n fwy effeithiol drwy ddwyn ynghyd yr holl dystiolaeth berthnasol ar gyfer yr eiddo hwnnw.
Byddwn yn cyhoeddi rhaglenni drafft ar-leinar gyfer gwneud sylwadau arnynt a byddwn yn ysgrifennu atoch pan fydd fersiwn terfynol eich rhaglen wedi'i gadarnhau i roi gwybod i chi am ddyddiadau'r cyfnod trafod ac unrhyw fanylion perthnasol eraill, gan gynnwys â phwy y mae angen i chi gysylltu.
Trafodaethau ffurfiol a darparu tystiolaeth
Bydd y cyfnod trafod ffurfiol yn para o leiaf ddeufis. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd yn fyrrach.
Os yw eich apêl yn gymhleth iawn, efallai y byddwn yn pennu cyfnod trafod hyd at bedwar mis.
Dyddiad Dechrau
Dyma ddechrau'r cyfnod trafod ffurfiol. Byddwn yn rhoi deufis o rybudd i chi o'r dyddiad hwn, a byddwn yn ysgrifennu atoch eto wythnos cyn iddo ddechrau. Yna byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich apêl.
- Rydym yn disgwyl i chi ddarparutystiolaeth i gefnogi eich achosa rhoi gwybod i ni am unrhyw anghysondebau ffeithiol. Mae'n ddefnyddiol os bydd gennych y wybodaeth hon o fewn pythefnos i'r dyddiad dechrau.
- Gall cyflwyno tystiolaeth neu faterion ffeithiol yn hwyr arwain at oedi wrth fynd ati i ddatrys eich apêl.
Dyddiad Targed
Dyma ddiwedd y cyfnod trafod ffurfiol. Bydd y Tribiwnlys Prisio yn delio ag unrhyw apeliadau na chânt eu datrys erbyn y dyddiad hwn.
Nid ydym yn parhau i gynnal trafodaethauar ôl y dyddiad targed oni bai:
- Bod y trafodaethau wedi dechrau mewn da bryd
- Bod disgwyl rhesymol i'r trafodaethau ddod i ben yn fuan
Mae hyn er mwyn sicrhau mai dim ond ar gyfer achosion a fydd yn mynd rhagddynt y bydd y Tribiwnlys Prisio yn gwneud trefniadau, ac fel na fydd achosion trethdalwyr eraill yn destun oedi o ganlyniad i drafodaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r cyfnod a nodir.
Darparu tystiolaeth i gefnogi eich apêl
Yn ystod y cyfnod trafod, byddwn yn disgwyl i chi:
- esbonio'n glir pam bod y gwerth ardrethol yn anghywir, yn eich barn chi
- darparu tystiolaeth sy'n cefnogi eich barn
- darparu prisiad amgen.
Mewn ymateb, os na allwn gytuno â chi, byddwn yn:
- esbonio'r gwerth ardrethol
- darparu tystiolaeth berthnasol i gefnogi'r gwerth ardrethol a/neu ddelio â'r materion a godwyd gan eich prisiad amgen.
Mynd i'r Tribiwnlys Prisio
Os na fyddwn wedi dod i gytundeb â chi erbyn y dyddiad targed ac os na fyddwch yn tynnu eich apêl yn ôl, bydd y Tribiwnlys Prisio yn delio â'ch achos. Bydd y Tribiwnlys yn rhestru'r apêl ar gyfer gwrandawiad cyhoeddus.
Mae'r ffordd y mae'r Tribiwnlys Prisio'n gweithio yn amrywio, yn dibynnu os ydych yng Nghymru neu yn Lloegr. Darllenwch y manylion perthnasol isod.
Yn Lloegr mae'r Tribiwnlys Prisio wedi nodi'r rheolau y dylech eu darllen. Y prif bwyntiau yw:
- Fel arfer, bydd dyddiad y gwrandawiaddeg wythnos ar ôl y dyddiad targed. Cewch eich hysbysu gan y Tribiwnlys am ddyddiad y gwrandawiad saith wythnos ymlaen llaw fel arfer. Cewch eich hysbysu hefyd am y dyddiadau pan fydd angen cyflwyno'r holl ddogfennau a gaiff eu defnyddio yn y gwrandawiad.
- Os ydych wedi bod yn trafod y cynnig â ni, byddwn yn eich hysbysu am y wybodaeth y gallwn gyfeirio ati yn ystod y gwrandawiad, a hynny chwe wythnos cyn dyddiad y gwrandawiad.
- Os nad ydych wedi bod yn trafod y cynnig â ni, efallai na fyddwn yn darparu'r wybodaeth hyd nes i ni gael Datganiad Achos oddi wrthy
- Bydd angen i chi gyflwyno Datganiad Achos ysgrifenedig i ni a'r Tribiwnlys bedair wythnos cyn dyddiad y gwrandawiad.
- Dylai'r datganiad hwn nodi'r materion y ceir anghydfod yn eu cylch, y canlyniad rydych am ei gael, a chrynodeb o'ch dadleuon a'ch tystiolaeth.
Mewn ateb, byddwn yn cyflwyno ein Datganiad Achos ysgrifenedig i chi a'r Tribiwnlys bythefnos cyn dyddiad y gwrandawiad.
Yn y gwrandawiad, bydd angen i chi fodloni'r Tribiwnlys y dylai eich cynnig i newid y gwerth ardrethol gael ei dderbyn.
Yng Nghymru nid yw Tribiwnlys Prisio Cymru wedi nodi unrhyw reolau ysgrifenedig, ond:
- Cewch eich hysbysu gan y Tribiwnlys am ddyddiad y gwrandawiad sawl wythnos ymlaen llaw fel arfer.
- Byddwn yn eich hysbysu am y wybodaeth y gallwn gyfeirio ati yn ystod y gwrandawiad.