llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Help

Gwneud apêl i uno mwy nag un eiddo

Mae'n bosibl gwneud apêl i uno dau neu fwy o eiddo yn un. Er enghraifft, os caiff dwy siop ei huno i wneud un. Pan gaiff eiddo ei uno fel hyn, byddwn yn cyfrifo gwerth ardrethol newydd ar gyfer yr eiddo sydd wedi uno.

Er mwyn gwneud ‘apêl i uno’, bydd angen i chi ddefnyddio dull Asiant, gan fod apêl o'r math hwn yn fwy cymhleth.

  1. Chwiliwch am yr eiddo rydych am ei uno.
  2. Pan fydd y canlyniadau'n ymddangos, cliciwch ar y botwm gwyrdd + wrth ochr bob eiddo a restrir i ychwanegu eiddo at y rhestr Cymharu ar frig ochr dde y sgrîn.
  3. Ticiwch bob eiddo i'w uno yn y rhestr Cymharu.
  4. Cliciwch ar Apelio .
  5. Dewiswch yr opsiwn Hoffwn wneud apêl i uno'r prisiadau hyn yn un.
  6. Cwblhewch weddill y broses apelio fel arfer a chyflwyno'r apêl.

Nid yw'n bosibl gwneud apêl ar-lein i rannu un eiddo yn fwy nag un eiddo ar hyn o bryd. Os bydd angen i chi wneud hyn, gallwch lawrlwytho'r ffurflen apelio a'i dychwelyd i'ch swyddfa brisio leol.