
Rydych chi ar y: dudalen Help
Beth a gyhoeddir gennym ar-lein
Rydym yn cyhoeddi'r rhestri ardrethi, sy'n cynnwys y prisiadau ar gyfer pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr ar-lein.
Beth yw rhestri ardrethi?
Rydym yn casglu'r holl werthoedd ardrethol ar gyfer eiddo annomestig mewn rhestri ardrethi. Ceir rhestr ar gyfer pob un o'r cynghorau lleol sy'n cyfrifo ac yn casglu biliau ardrethi busnes.
Caiff yr holl restri ardrethi eu casglu a'u cyhoeddi bob pum mlynedd yn ystod yr ailbrisiad. Os ceir 'newid perthnasol' , neu reswm arall sy'n golygu bod angen i ni addasu'r gwerth ardrethol, byddwn yn newid ei gofnod ar y rhestr ardrethi.
- Daw rhestri 2010 i rym ar 1 Ebrill 2010 a byddant yn para tan yr ailbrisiad nesaf.
- Daeth rhestri 2005 i rym ar 1 Ebrill 2005 a byddant yn para tan 31 Mawrth 2010.
- Daeth rhestri 2000 i rym ar 1 Ebrill 2000 a gwnaethant bara tan 31 Mawrth 2005.
- Ac ati…
Mae rhestr 2010, 2005 a 2000 i gyd ar gael ar y wefan hon. Gallwch weld eich prisiad ar gyfer 2010, neu wirio prisiadau blaenorol.
Pa wybodaeth am brisiadau sydd ar gael ar-lein?
Mae rhestri 2010 a 2005 yn cynnwys y gwerth ardrethol a chrynodeb o'r prisiad ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo. Ni chyhoeddwyd crynodebau o brisiadau gennym yn 2000, felly nid ydynt ar gael.
Ar gyfer rhai mathau o eiddo, nid ydym yn cyhoeddi'r crynodeb. Gall hyn fod am fod y wybodaeth wedi'i chyfyngu neu'n fasnachol sensitif.