llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Help

Y rhestr ardrethu canolog

Y rhestr ardrethu ganolog Mae'r rhestrau ardrethu canolog yn cynnwys asesiadau ardrethu o eiddo rhwydwaith prif ymgymeriadau trafnidiaeth, cyfleustodau a thelathrebu a phiblinellau traws gwlad. Ceir un cofnod yn y rhestr ardrethu ar gyfer pob cwmni a enwir yn Rheoliadau Rhestr Ardrethu Ganolog 2005. Ceir Rheoliadau a rhestrau gwahanol ar gyfer Cymru a Lloegr.

Dangosir un gwerth ardrethol cyfun ar gyfer yr holl eiddo a feddiannir gan y trethdalwr a enwir a gwmpesir yn y diffiniad ohono yn y Rheoliadau. Caiff unrhyw eiddo a feddiannir gan drethdalwr ar y rhestr ganolog nas cwmpesir yn y diffiniad ei nodi'n unigol ar restr ardrethu leol.

Caiff ardrethi ar hereditamentau'r rhestr ardrethu ganolog yn Lloegr eu talu'n uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, ac i Lywodraeth Cymru yng Nghymru. Mae'r rhestrau'n dangos y gwerthoedd ardrethol sydd ar waith ar gyfer pob trethdalwr ar hyn o bryd. Pan ddangoswyd gwerth ardrethol gwahanol nad yw'n berthnasol mwyach mewn cofnod cynharach, gellir gweld hwn drwy'r ddolen 'Tudalennau a Ddisodlwyd'.

Mae'r ffeiliau hyn hefyd ar gael ar ffurf PDF, ac i'w gweld mae angen y rhaglen Adobe Acrobat arnoch y gellir ei lawrlwytho am ddim o wefan Adobe.

Cyflwyno Cynigion:

Er mwyn bod yn ddilys, rhaid i gynnig gael ei gyflwyno i'r Swyddog Prisio Canolog, sef y swyddog statudol sy'n gyfrifol am y rhestrau ardrethu canolog. Gallwch wneud hyn drwy ei gyflwyno i'w swyddfa naill ai yn Wingate House, 93/107 Shaftesbury Avenue, London, W1D 5BU neu Regent Court, 14-17 George Road, Edgbaston, Birmingham, B15 1NU, drwy'r post neu'n bersonol. Fel arall, gallwch gyflwyno'r cynnig dros y ffacs gan ddefnyddio'r rhif canlynol: 0121 410 3859. Ar hyn o bryd, nid oes cyfleuster ar gyfer cwblhau a chyflwyno cynnig mewn perthynas â'r rhestr ganolog ar-lein drwy wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Ffeiliau'r rhestr ganolog

Rhestr ardrethu 2010

Rhestr ardrethu 2005

Cwestiynau Cyffredin perthnasol ac yn helpu i dudalennau