
Rydych chi ar y: dudalen Help
Beth i'w ddisgwyl os bydd angen i ni ymweld â'r eiddo
Weithiau bydd angen i ni ymweldageiddo i sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac wedi'u diweddaru.
Os bydd angen i ni ymweld, byddwn yn gwneud y pethau canlynol:
- Fel arfer byddwn yn ffonioi drefnu amser addas ar gyfer yr ymweliad.
- Byddwn ynbrydlon ar gyfer unrhyw apwyntiad a wnawn.
- Dweud wrthych pwy ydym a dangos ein prawf adnabod i chi.
- Gofyn am eich caniatâd os oes angen i ni dynnu lluniau y tu mewn i'r safle.
- Ysgrifennu atoch ar ôl hynny os byddwn yn newid y gwerth ardrethol.
Mae gennym siarter cwsmeriaid sy'n manylu ein hymrwymiad i chi ac at safon y gwasanaeth y gallwch ddisgwyl ei gael. Mae hyn yn cynnwys ein hymrwymiad i gwsmeriaid nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.