
Rydych chi ar y: dudalen Help
Sut mae rhyddhad trosiannol yn gweithio
Mae rhyddhad trosiannol wedi'i lunio i leihau'r effaith a achosir gan unrhyw newidiadau mawr mewn gwerth ardrethol - p'un a yw'r newid i fyny neu i lawr. Bydd eich cyngor lleol yn awtomatig yn cynnwys rhyddhad trosiannol pan fyddant yn cyfrifo eich bil. Mae'r rhyddhad ond yn berthnasol i Loegr.
Mae rhyddhad trosiannol yn cyfyngu ar y ganran y gellir cynyddu neu leihau eich ardrethi busnes bob blwyddyn ar ôl ailbrisiad. Bydd y rhyddhad trosiannol yn gymwys bob blwyddyn tan i'ch bil gyrraedd yr un gwerth â'r hyn y byddai eich bil llawn wedi bod yn 2010. Caiff bil llawn 2010 ei gyfrifo drwy luosi'r gwerth ardrethol gyda'r lluosydd.
Sut y cyfyngir ar gynnydd yn y bil?
| 2010/11 | 2011/12 | 2012/13 | 2013/14 | 2014/15 | |
|---|---|---|---|---|---|
| Eiddo bach | 5% | 7.5% | 10% | 15% | 15% |
| Eiddo mawr | 12.5% | 17.5% | 20% | 25% | 25% |
Sut y cyfyngir ar ostyngiadau yn y bil?
| 2010/11 | 2011/12 | 2012/13 | 2013/14 | 2014/15 | |
|---|---|---|---|---|---|
| Eiddo bach | 20% | 30% | 35% | 55% | 55% |
| Eiddo mawr | 4.6% | 6.7% | 7% | 13% | 13% |
Beth yw eiddo bach ac eiddo mawr?
Eiddo bach yw eiddo sydd â gwerth ardrethol 2010 islaw £18,000 (neu £25,500 yn Llundain Fwyaf). Mae pob eiddo arall yn eiddo mawr.
Sut y caiff trosiant ei ariannu?
Mae'n rhaid i'r trosiant ariannu ei hun, a chaiff y cyfyngiadau ar gynnydd eu hariannu gan y cyfyngiadau a roddir ar ostyngiadau.
Sut y bydd yn effeithio ar fy mil?
Gallwch gael amcangyfrif o'ch bil ardrethi sy'n cynnwys unrhyw ryddhad trosiannol. Bydd angen eich gwerth ardrethol ar gyfer 2010 a'ch gwerth ardrethol ar gyfer 2005 arnoch.