
Rydych chi ar y: dudalen Help
Sut rydym yn prisio stablau ar gyfer ardrethi busnes
Gellir prisio stablau - yn ogystal â meysydd ymarfer (manéges) - ar gyfer naill ai ardrethi busnes neu'r dreth gyngor.
Rydym yn penderfynu sut i brisio stablau'n seiliedig ar dri ffactor:
- Sut y cânt eu defnyddio
- Pa mor agos ydynt at unrhyw lety byw neu os ydynt wedi'u cysylltu ag ef
- Eu maint.
Mewn llawer o achosion, mae blociau stabl yn ysgolion marchogaeth neu'n stablau hurio sy'n cael eu rhedeg fel busnes. Caiff y rhain eu hasesu ar gyfer ardrethi busnes, a chaiff gwerth ardrethol ei bennu ar eu cyfer.
Mae'r ffordd rydym yn ardrethu stablau eraill yn faes cyfreithiol cymhleth, a chaiff pob achos ei ystyried yn ôl eirinweddau ei hun.
Caiff stablau eu hasesu ar gyfer ardrethi busnes, oni bai:
- Y cânt eu defnyddio i stablu ceffylau sy'n gweithio ar dir amaethyddol at ddiben amaethyddol. Caiff stablau o'r fath eu heithrio rhag talu ardrethi busnes.
- Nid yw ceffylau a ddefnyddir at ddibenion hamdden - yn fasnachol neu fel arall - yn cael eu cynnwys yn y categori hwn hyd yn oed os ydynt yn cael eu cadw ar fferm.
- Eu bod o fewn arwynebedd yr eiddo domestig a'u bod yn cael eu defnyddio at ddibenion preifat ar raddfa sy'n briodol i'r eiddo domestig. Fel arfer tybir bod arwynebedd yr eiddo domestig yr un fath ag arwynebedd yr ardd. Mae stablau o'r fath yn cael eu cynnwys yn y band treth gyngor.
Os oes gennych gwestiwn ynghylch sut rydym wedi asesu eich stablau, gallwch gysylltu â'ch swyddfa brisio leol i drafod y mater.