
Rydych chi ar y: dudalen Help
Sut rydym yn prisio lletyau hunanarlwyo, gan gynnwys bythynnod a fflatiau gwyliau
Ar gyfer llety gwyliau hunanarlwyo rydym yn cyfrifo'r gwerth ardrethol yn seiliedig ar nifer y gofodau gwelyau sengl yn yr eiddo.
Y gwerth ardrethol yw ein hasesiad o'r rhent blynyddol y gellid ei gael am rentu eiddo busnes ar y dyddiad prisio. Ar gyfer eiddo fel siopau, swyddfeydd a warysau gallwn ddadansoddi rhenti blynyddol gwirioneddol i bennu gwerth ardrethol.
Ar gyfer lletyau gwyliau hunanarlwyo - fel bythynnod neu fflatiau gwyliau - nid oes tystiolaeth o renti ar gael fel arfer felly byddwn yn defnyddio pris fesul gofod gwely ar gyfer pob eiddo unigol, yn seiliedig ar y math, y maint a'r lleoliad, i bennu ei werth ardrethol.
Sut rydym yn pennu'r pris fesul gofod gwely?
Caiff y pris fesul gofod gwely ei gyfrifo drwy edrych ar lefelau proffidioldebystod o letyau gwyliau hunanarlwyo. Rydym yn edrych ar y cyfanswm incwm (heb gynnwys TAW) a gynhyrchwyd gan eiddo nodweddiadol ac yna yn didynnu'r costau cysylltiedig megis:
- Gwaith cynnal a chadw ar gyfer yr eiddo a'r ardd
- Trethi dŵr
- Trwyddedau teledu
- Dibrisio gosodiadau.
Nid yw ein cyfrifiad yn cynnwys cost unrhyw fenthyciad neu forgais a ddefnyddiwyd i brynu'r eiddo.
Pryd y caiff eiddo ei nodi fel llety gwyliau hunanarlwyo?
Os yw eich eiddo ar gael i'w rentu am 140 o ddiwrnodau neu fwy y flwyddyn, caiff ei nodi fel eiddo hunanarlwyo.
Cwestiynau Cyffredin perthnasol ac yn helpu i dudalennau
- Mae gennyf lety gwyliau hunanarlwyo - pam fy mod wedi derbyn prisiad ar gyfer ardrethi busnes?
- O ble y daeth y wybodaeth ar y prisiad am fy llety gwyliau hunanarlwyo?
- Sut y gwnaethoch bennu gwerth ardrethol ar gyfer fy llety gwyliau hunanarlwyo?
- Beth yw ystyr gofod gwely sengl?
- Mae llai o ofodau gwely yn fy llety gwyliau hunanarlwyo na'r hyn a brisiwyd gennych - a yw fy ngwerth ardrethol yn rhy uchel?
- Pam y caiff lletyau gwyliau hunanarlwyo eraill eu prisio am lai o ofodau gwely na'r hyn a hysbysebir ganddynt?
- Nid wyf yn defnyddio'r eiddo hwn fel llety gwyliau mwyach - beth y dylwn ei wneud nawr?
- Nid wyf yn rhentu fy llety gwyliau am fwy na 140 o ddiwrnodau'r flwyddyn - pam y dylwn dalu ardrethi?
- Anfonais fy nerbynebau atoch - a ydych wedi ystyried y rhain?
- Pam na allaf dalu treth gyngor ar fy llety gwyliau hunanarlwyo?