
Rydych chi ar y: dudalen Help
Sut rydym yn prisio tafarndai a safleoedd trwyddedig eraill
Rydym yn defnyddio'r dull prisio masnach gynaliadwy deg i asesu'r gwerth ardrethol ar gyfer tafarndai a safleoedd trwyddedig eraill. Hwn yw'r dull prisio a ddefnyddir yn gyffredinol ar gyfer rhentu tafarndai.
Masnach gynaliadwy deg yw'r lefel flynyddol o fasnach (heb gynnwys TAW) y gellid disgwyl ei gyflawni gan dafarn sy'n gweithredu'r busnes yn eithaf effeithlon. Mae'n seiliedig ar y canlynol:
- Y math o dafarn neu safle trwyddedig
- Yr ardal y lleolir y dafarn neu'r safle trwyddedig ynddi
- Pa wasanaethau y gellir eu cynnig - megis bwyd, hapchwarae, sgriniau i ddangos chwaraeon.
Byddwn yn cyfeirio at renti a throsiannau gwirioneddol a gesglir gennym gan fusnesau i bennu lefelau o fasnach gynaliadwy deg.
Yna byddwn yn cymhwyso canran at ffigur y fasnach gynaliadwy deg i gyfrifo'r gwerth ardrethol.
Caiff yr ystodau o ganrannau a ddefnyddir gennym eu sefydlu drwy ddadansoddi rhenti tafarndai. Cytunwyd arnynt gyda Chymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain, ac maent wedi'u cyhoeddi yn y 2010 Pub Guide (PDF).