llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Help

Sut rydym yn prisio eiddo diwydiannol

Rydym yn defnyddio'r dull prisio ar gyfer eiddo i'w rhentu i brisio warysau ac eiddo diwydiannol eraill.

Mae'r dull hwn yn asesu'r gwerth ardrethol, yn seiliedig ar dystiolaeth o renti gwirioneddol a gytunwyd arnynt gyda landlordiaid a thenantiaid, wedi'i rannu'n bris fesul metr sgwâr.

Rydym yn mesur arwynebedd mewnol gros yr adeilad ac yna'n cymhwyso'r pris fesul metr sgwâr i bennu'r gwerth ardrethol. Byddwn hefyd yn ystyried argaeleddcyfleusterau ychwanegol megis llefydd parcio neu system aerdymheru.

Os oes nifer o feddianwyr mewn uned ddiwydiannol, byddwn yn prisio'r ardal a osodwyd ar gyfer pob meddiannwr.