llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Help

Sut rydym yn prisio swyddfeydd

Rydym yn defnyddio'r dull prisio ar gyfer eiddo i'w rhentu o brisio swyddfeydd.

Mae'r dull hwn yn asesu'r gwerth ardrethol , yn seiliedig ar dystiolaeth o rhenti gwirioneddol y cytunwyd arnynt gyda landlordiaid a thenantiaid, wedi'i rannu'n bris fesul metr sgwâr.

Rydym yn mesur arwynebedd mewnol net y swyddfa ac yna'n cymhwyso'r pris fesul metr sgwâr i bennu'r gwerth ardrethol. Byddwn hefyd yn ystyried argaeleddcyfleusterau ychwanegol megis meysydd parcio neu system aerdymheru.

Os oes nifer o feddianwyr mewn bloc o swyddfeydd, byddwn yn prisio'r ardal a osodwyd ar gyfer pob meddiannwr ac yn ystyried ar ba lawr y maent wedi'u lleoli yn yr adeilad.