Ateb:
Rydym yn defnyddio'r dull prisio ar gyfer eiddo i'w rhentu i brisio siopau a safleoedd manwerthu eraill.
Mae'r dull hwn yn asesu'r gwerth ardrethol, yn seiliedig ar dystiolaeth o rhenti gwirioneddol y cytunwyd arnynt gyda landlordiaid a thenantiaid, wedi'i rannu'n bris fesul metr sgwâr. Rydym yn defnyddio'r arwynebedd mewnol net i fesur yr ardal sydd i'w chyfrifo.
Mae siopau'n wahanol i eiddo eraill a asesir yn y ffordd hon - megis swyddfeydd - oherwydd ein bod hefyd yn defnyddio ardaloedd ym mesuriad yr eiddo i helpu â'r broses o bennu pris fesul metr sgwâr. Mae hyn yn cydnabod mai rhan fwyaf gwerthfawr y safle yw'r rhan flaen, ger ffenestri'r siop, a chaiff hyn ei ystyried yn yr asesiad.
