
Rydych chi ar y: dudalen Help
Y lluosydd ardrethi busnes
Defnyddir y lluosydd gan eich cyngor lleol wrth gyfrifo eich bil ardrethi busnes. Caiff ei adnabod hefyd fel yr ardreth fusnes unffurff (neu UBR).
Mae'r lluosydd yn nodi canran, neu geiniog yn y bunt, y gwerth ardrethol y byddwch yn ei thalu mewn ardrethi busnes. Caiff ei osod yn ystod pob ailbrisiad gan yr adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Lloegr a Llywodraeth Cynulliad Cymru . Gall Dinas Llundain osod ei lluosydd ei hun. Fel arfer bydd y lluosydd yn newid bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.
Rydym yn cyhoeddi rhestr o'r lluosyddion cyfredol a lluosyddion blaenorol ar-lein.
Beth yw'r lluosydd ardrethi busnesau bach?
Mae'r lluosydd ardrethi busnesau bach yn lluosydd a leihawyd a ddefnyddir yn Lloegr pan fydd y cyngor yn cyfrifo'r bil ar gyfer unrhyw fusnesau sy'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach. Mae'r ffordd y caiff y rhyddhad ei ddefnyddio'n amrywio rhwng Cymru a Lloegr.
Sut mae'r lluosydd yn gweithio yn yr ailbrisiad?
Yn yr ailbrisiad, caiff y lluosyddion eu hadolygu fel bod y bil ardrethi busnes cenedlaethol cyffredinol ond yn newid yn unol â chwyddiant. Golyga hyn na fydd newid yn eich gwerth ardrethol yn golygu newid cyfatebol yn eich bil bob amser.
Er enghraifft, rydych yn talu ardrethi ar adeilad ym Manceinion. Mae'r gwerth ardrethol yn cynyddu o £14,800 i £17,000 ond mae'r newid yn y lluosydd yn golygu y bydd y bil yn gostwng.
Gwerth ardrethol x lluosydd = bil cyn rhyddhad ychwanegol
2009/10 £14,800 x £0.481 = £7,118
2010/11 £17,100 x £0.407 = £7,081