llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Help

Gweithio gartref ac ardrethi busnes

Os ydych yn gweithio gartref, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar y rhan o'r eiddo a ddefnyddir ar gyfer gwaith.

Os bydd angen asesu rhan o'ch eiddo ar gyfer ardrethi busnes, byddwn yn cyfrifo gwerth ardrethol ar gyfer y rhan honno. Bydd yn rhaid i chi dalu'r dreth gyngor ar weddill yr eiddo (ond gellir newid y band treth gyngor os oes angen).

Bydd eich cyngor lleol yn defnyddio'r gwerth ardrethol i gyfrifo'r bil ardrethi busnes a'i anfon atoch bob blwyddyn. Os ydych eisoes yn cael eich asesu am ardrethi busnes gartref gallwch gael amcangyfrif o'ch bil ardrethi ar gyfer 2010-11.

Byddwn yn ystyried sawl ffactor wrth benderfynu p'un a fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar y rhan o'ch eiddo a ddefnyddir at ddibenion gwaith. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • i ba raddau a pha mor aml y defnyddir yr ystafell (neu'r ystafelloedd) at ddibenion gwaith
  • os yw'r adeilad wedi'i addasu i'w ddefnyddio ar gyfer gwaith.

Darllenwch rhai enghreifftiau o sut rydym yn asesu ardaloedd gweithio gartref.

Caiff pob achos ei ystyried yn ôl eideilyngdod ei hun, ac fel arfer byddwn yn gofyn am gael ymweld â'ch eiddo i weld y ffeithiau cyn gwneud asesiad.

Hefyd mae sawl cynllun rhyddhad ardrethi ar gael, a allai ostwng eich bil. Bydd eich cyngor lleol yn gweinyddu'r rhain.