
Rydych chi ar y: dudalen Help
Cynlluniau rhyddhad ardrethi
Mae sawlcynllun rhyddhad ardrethi ar gael. Weithiau bydd yn rhaid i chi wneud cais i gael rhyddhad ardrethi ond mae eraill yn awtomatig.
Ydych chi'n fusnes bach?
Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach os yw eich gwerth ardrethol islaw lefel benodol. Caiff rhyddhad ardrethi busnesau bach ei weinyddu gan eich cyngor lleol a bydd y system yn amrywio rhwng Cymru a Lloegr.
A yw eich gwerth ardrethol wedi newid yn sylweddol ers yr ailbrisiad?
Mae rhyddhad trosiannol yn Lloegr wedi'i lunio i leihau'r effaith a achosir gan unrhyw newidiadau mawr mewn gwerth ardrethol - p'un a yw'r newid i fyny neu i lawr. Bydd eich cyngor lleol yn awtomatig yn cynnwys rhyddhad trosiannol pan fyddant yn cyfrifo eich bil. Nid oes rhyddhad trosiannol yng Nghymru.
A yw eich eiddo yn wag?
Caiff pob eiddo gwag eu eithrio rhag talu ardrethi busnes am dri mis ar ôl iddynt ddod yn wag. Ceir eithriadau ychwanegol ar gyfer mathau penodol o eiddo, neu ar gyfer eiddo sydd o dan werth ardrethol penodol. Dylech gysylltu â'ch cyngor lleol i roi gwybod iddynt os bydd eich eiddo'n dod yn wag.
A ydych yn elusen neu'n glwb chwaraeon cymunedol amatur?
Gall elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur wneud cais am ryddhad elusennol. Gall hyn leihau'r bil 80%. Mewn rhai ardaloedd gellid lleihau hyn hyd yn oed ymhellach. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth.
A ydych yn sefydliad di-elw o fath arall?
Gall sefydliadau di-elw wneud cais am ryddhad dewisol. Gall hyn leihau'r bil 100 y cant. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth.
A ydych yn fusnes gwledig, fel siop bentref neu orsaf betrol?
Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ryddhad dewisol. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth.