
Rydych chi ar y: dudalen Help
Cyrff ardrethu proffesiynol eraill
Mae sawl sefydliad proffesiynol a all eich rhoi mewn cysylltiad â syrfëwr ardrethu cymwys.
Gall syrfëwyr ardrethu - a elwir yn asiantau ardrethu yn aml - roi cyngor i chi ar eich gwerth ardrethol neu eich cynrychioli wrth i chi ddelio â ni. Mae gan y rhan fwyaf o asiantau enw da ac maent yn broffesiynol, a byddant yn perthyn i un o'r sefydliadau proffesiynol canlynol:
- Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig (RICS)
- Y Sefydliad Refeniw, Ardrethu a Phrisio (IRRV)
- Cymdeithas y Syrfëwyr Ardrethu (RSA)
Efallai y codir tâl arnoch am unrhyw gyngor adrethu proffesiynol a gewch gan y cyrff hyn o'r dechrau. Gallwch ffonio RICS ar 0870 333 1600 i ymgynghori â syrfëwr siartredig - bydd 30 munud cyntaf yr ymgynghoriad am ddim.
Os ydych am ymgynghori ag asiant, gallwch wneud y canlynol:
- Gofyn i'r sefydliadau proffesiynol am restr o asiantau ag enw da yn eich ardal
- Edrych ar gymwysterau'r asiant sydd wedi cysylltu â chi gyda'i sefydliad proffesiynol.
Ceir Cod Ymarfer ar gyfer Ymgynghoriaeth Ardrethol. Mae hwn yn amlinellu safon y gwasanaeth y dylai holl aelodau'r tri chorff proffesiynol ei roi i chi.