llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Help

Esbonio'r broses o bennu ardal ar gyfer manwerthu

Mae'r broses o bennu ardal yn ffordd o fesur safle manwerthu.

Mae'r broses o bennu ardal yn ddull safonol o fesur safle manwerthu at ddibenion prisio. Caiff ei defnyddio gan syrfëwyr y sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyfrifo gwerth safle manwerthu. Mae'n cydnabod mai rhan fwyaf gwerthfawr y safle yw'r rhan flaen, ger y ffenestr.

Beth yw'r ardaloedd?

Caiff eich siop neu eich safle manwerthu ei rannu'n nifer o ardaloedd. Dyfnder pob ardal yw 6.1 metr (20 troedfedd). Y rhan flaen, ger y ffenestr, yw ardal A. Y 6.1 metr nesaf yw ardal B, a'r nesaf yw ardal C. Bydd yr ardaloedd yn parhau nes y rhoddir ardal i ddyfnder cyfan yr ardal fanwerthu. Diffinnir unrhyw beth ar ôl ardal C fel y gweddill.

Sut rydym yn prisio ardaloedd?

Mae siopau o wahanolsiâp a maint ar gael. Drwy rannu pob siop yn ardaloedd safonol gallwn ystyried y gwahaniaethau hyn wrth i ni eu prisio. Rydym yn edrych ar dystiolaeth o'r rhenti gwirioneddol a delir yn yr ardal, ac yn eu rhannu'n bris fesul metr sgwâr am bob ardal. Yn gyffredinol ystyrir bod pob ardal yn werth hanner cymaint â'r ardal flaenorol.