
Rydych chi ar y: dudalen Help
Deall y dyddiad prisio
Caiff pob busnes ac eiddo annomestig eu prisio ar yr un dyddiad - y dyddiad prisio.
Caiff y dyddiad prisio ei osod ddwy flynedd cyn i'r ailbrisiad ddod i rym. Dyma yw'r drefn ers i'r system ardrethi busnes gyfredol gael ei chyflwyno yn 1990.
- Mae prisiadau 2010 yn seiliedig ar y prisiad ar 1 Ebrill 2008
- Mae prisiadau 2005 yn seiliedig ar y prisiad ar 1 Ebrill 2003
- Roedd prisiadau 2000 yn seiliedig ar y prisiad ar 1 Ebrill 1998.
- Ac ati …
Mae hyn yn rhoi amser i ni gasglu'r wybodaeth a ddefnyddir gennym i ategu ein prisiadau ac i baratoi pob prisiad cyn i ni gyhoeddi'r rhestri ardrethi.
Nod pob ailbrisiad yw ailddosbarthu'r un bil cyffredinol i fusnesau yn seiliedig ar y newidiadau perthnasol i werthoedd eiddo ers y dyddiad prisio diwethaf. Caiff pob eiddo ei brisio ar yr un dyddiad felly nid oes ots os caiff yr ailbrisiad ei wneud yn ystod pwynt 'uchel' neu 'isel' yn y farchnad eiddo.