Ateb:
Os ydych am wneud yn siŵr bod ein mesuriadau yn gywir, dylech ddefnyddio'r un dull o fesur a ddefnyddiwyd gennym ni.
Rhoddir manylion am sut rydym yn mesur eiddo yn ein canllawiau mesur, sy'n cydymffurfio â'r cod mesur a gymeradwywyd gan Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig (RICS).
Rydym yn defnyddio dau ddull ar gyfer mesur eiddo:
- yr arwynebedd mewnol gros (GIA).
- yr arwynebedd mewnol net (NIA).
Caiff y dull a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer eich eiddo chi ei ddisgrifio yn ei gynllun prisio.
- Edrychwch am eich prisiad. Bydd y prisiad yn dangos yr ardaloedd sydd gennym ar gyfer pob rhan o'ch eiddo.
- Cliciwch ar y ddolen cynllun prisio i weld y cynllun a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer eich eiddo. Bydd hyn yn rhestru'r dull prisio a ddefnyddiwyd gennym - naill ai'r arwynebedd mewnol net neu'r arwynebedd mewnol gros.
- Edrychwch am y dull yn ein canllawiau mesur. Bydd hwn yn rhoi gwybod i chi pa rannau o'r eiddo y dylech eu cynnwys yn eich mesuriadau.
Ar gyfer siopau a safleoedd manwerthu, caiff y mesuriadau eu rhannu'n ardaloedd hefyd.
Os nad yw ein mesuriadau yr un peth â rhai'r eiddo, cysylltwch â ni. Rhowch gyfeiriad a chod post yr eiddo, a'r mesuriadau a wnaed gennych.
Nid yw fy mhrisiad yn dangos unrhyw ardaloedd - sut y gallaf wneud yn siŵr bod y manylion yn gywir?
Caiff y rhan fwyaf o eiddo eu prisio gan ddefnyddio'r dull prisio ar gyfer eiddo i'w rhentu. Mae hwn yn seiliedig ar bris fesul metr sgwâr . Caiff rhai mathau o eiddo eu prisio yn seiliedig ar fasnach yn lle hynny. Ni fydd y mathau hyn yn dangos ardaloedd:
- tafarndai a safleoedd trwyddedig.
- gwestai bach a lleoliadau gwely a brecwast
- lletyau gwyliau hunanarlwyo.
Am resymau diogelwch, ni fyddwn yn rhoi manylion rhai mathau o eiddo (er enghraifft, banciau neu gymdeithasau adeiladu).
