Rydych chi ar:
Geirfa
Defnyddiwch y botymau A - Y isod i weld yr eirfa gysylltiedig
- 0-9
- A
-
-
Ailbrisiad
Ailbrisiad yw'r broses reolaidd a gynhelir bob pum mlynedd i ailasesu pob gwerth ardrethol.
-
Annomestig
Eiddo (neu ran o eiddo) a ddefnyddir at ddibenion busnes neu ddibenion annomestig eraill.
-
Apêl
Mae'r broses apelio yn dechrau drwy wneud cynnig i VOA. Os na chytunir ar y cynnig o fewn 3 mis, bydd yn troi'n apêl i'rTribiwnlys Prisio annibynnol.
-
Ardaloedd
Dull o fesur a rhannu safleoedd masnachu i'w prisio.
-
Ardrethu annomestig
Y system ardrethu eiddo sy'n ategu ardrethi busnes. Weithiau caiff ei galw'n NDR neu'n NNDR (Ardrethu Annomestig Cenedlaethol).
-
Arolwg
Data'r arolwg yw'r wybodaeth sydd gennym am eich eiddo. Mae hyn yn cynnwys manylion am y broses adeiladu, yr ardaloedd a gyfrifwyd a materion eraill sy'n effeithio ar y gwerth megis system wresogi, system aerdymheru, safle a pheirianwaith, ac ati.
-
Asesu
Gelwir y manylion yn y rhestri adrethi yn asesiadau.
-
Asiant
Fel arfer, mae asiant, neu asiant ardrethi yn syrfëwr ardrethi proffesiynol sy'n eich cynrychioli i VOA.
-
Awdurdod bilio
Yr awdurdod bilio yw'r cyngor lleol neu'r awdurdod unedol sy'n cyfrifo a chasglu eich bil ardrethi busnes.
-
- B
- CBack to top
-
-
Cod yr awdurdod bilio
Mae hwn yn god unigryw ar gyfer pob awdurdod bilio.
-
Cod SCAT
A property that is ‘mixed use’. It combines both domestic and non-domestic uses. Sometimes called a comp.
-
Cymysg
Eiddo sydd o 'ddefnydd cymysg'. Mae'n cyfuno defnydd domestig a defnydd annomestig.
-
Cynllun prisio
Mae cynllun prisio yn manylu sut rydym yn prisio math arbennig o eiddo mewn lleoliad penodol.
-
Cynnig
Weithiau caiff ei alw'n 'gynnig i newid y rhestr'. Hwn yw cam cyntaf y broses apelio lle y byddwch chi, neu eich asiant, yn cyflwyno cynnig i VOA.
-
Cytuno
Mae hyn yn dangos y cytunwyd ar apêl .
-
- D
-
-
Disgrifiad
Mae hwn yn ddisgrifiad cryno o'r math o eiddo.
-
Domestig
Eiddo (neu ran o eiddo) a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfa.
-
Dyddiad dechrau
Dyma'r dyddiad pan fydd VOA yn cysylltu â'r unigolyn a wnaeth apêl er mwyn ei drafod.
-
Dyddiad dod i rym
Y dyddiad dod i rym yw'r dyddiad y bydd unrhyw newidiadau i'r gwerth ardrethol yn dechrau.
-
Dyddiad newid y rhestr
Hwn yw'r dyddiad y gwnaed unrhyw newidiadau i'r rhestr adrethi gan VOA. Mae hwn yn wahanol i'r dyddiad prisio a'r dyddiad dod i rym.
-
Dyddiad prisio rhagflaenol
Y dyddiad prisio. Weithiau caiff ei alw'n ddyddiad prisio rhagflaenol. Hwn yw'r dyddiad prisio cyffredinol a ddefnyddir yn ystod yr ailbrisiad.
-
Dyddiad targed
Mae'n rhaid cytuno ar apêl erbyn y dyddiad hwn. Oni cheir cytundeb erbyn y dyddiad hwn, caiff yr apêl ei throsglwyddo i'r Tribiwnlys Prisio.
-
- E
-
-
Eiddo
Yr arwynebedd a gynhwysir mewn hereditament. Gall hyn gynnwys adeiladau, tir, meysydd parcio, iardiau, ystafelloedd storio a chyfleusterau eraill sydd o fewn i ffiniau'r eiddo.
-
EPRR
Rhyddhad ardrethi eiddo gwag.
-
- F
- G
- H
-
-
Hereditament
Graddau'r eiddo a gynhwysir o fewn un cofnod mewn rhestr ardrethi.
-
- I
-
-
Is-raglen
Caiff pob apêl ei bennu ar gyfer is-raglen.
-
- J
- K
- LBack to top
-
-
Lluosydd
Y lluosydd yw'r swm ymhob punt y byddwch yn ei dalu yn y gwerth ardrethol.
-
- M
- N
- O
- PBack to top
-
-
PDESC
Mae hwn yn god alffaniwmerig sy'n nodi defnydd eiddo. Gweler y Disgrifiad.
-
POA
Rhaglennu apeliadau. Amserlen yw hon sy'n nodi pryd yr ymdrinnir ag apêl .
-
Prisiad cryno
Mae prisiad cryno yn rhestru eich gwerth ardrethol. Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o eiddo mae hefyd yn manylu'r wybodaeth a ddefnyddiwyd gennym i gyfrifo'r gwerth ardrethol. Yn ystod ailbrisiad caiff prisiadau eu dosbarthu ar bapur ar yr un pryd ag y caiff y rhestr ddrafft ei chyhoeddi ar-lein.
-
Prisio
Y broses o asesu gwerth ardrethol eiddo.
-
- Q
- R
-
-
Rhestr ardrethi
Y rhestr ardrethi yw ein rhestr, un ar gyfer pob awdurdod bilio, sy'n cynnwys pob eiddo busnes a phob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr.
-
Rhestr ddrafft
Caiff fersiwn ddrafft o'r rhestr ardrethi ar gyfer pob awdurdod bilio ei chyhoeddi chwe mis cyn i'r rhestr gyflawn ddod i rym yn ystod ailbrisiad.
-
Rhestr gyflawn
Dyma'r rhestr ardrethi ar gyfer pob awdurdod bilio wrth iddi ddod i rym yn ystod ailbrisiad.
-
Rhif cyfeirnod y swyddog prisio
Hwn yw rhif cyfeirnod unigryw VOA ar gyfer apêl. Dylech ddyfynnu'r rhif hwn wrth gysylltu â ni am apêl benodol.
-
Rhif cyfeirnod yr awdurdod bilio
Mae hwn yn god unigryw ar gyfer pob eiddo o fewn awdurdod bilio.
-
RV
Weithiau, gelwir y gwerth ardrethol yn RV.
-
- SBack to top
-
-
Sail ar gyfer apelio
Y rhesymau pam eich bod am apelio yn erbyn y gwerth ardrethol.
-
SBRR
Rhyddhad ardrethi busnesau bach.
-
SPROG
Gweler is-raglen.
-
SV
Y prisiad cryno.
-
Swyddog prisio
Each appeal is assigned to a sub-programme.
-
Summary valuation
Y swyddog statudol sy'n gyfrifol am gasglu a chynnal y rhestr ardrethi ar gyfer awdurdodau bilio yn ei ardal.
-
- TBack to top
-
-
Trethdalwr
Yr unigolyn y mae'n ofynnol iddo dalu'r bil ardrethi busnes ar gyfer yr eiddo. Hwn yw'r meddiannwr, oni bai bod yr eiddo'n wag, ac os felly cyfrifoldeb y perchennog ydyw.
-
Tribiwnlys Prisio
Mae'r Tribiwnlys Prisio yn dribiwnlys annibynnol sy'n gwrando apeliadau . Weithiau caiff ei alw'n VT.
-
- U
-
-
UBR
Y lluosydd ardrethi busnes.
-
- V
-
-
VT
-
Ychwanegiadau eraill
Rhannau o eiddo na chânt eu dangos fel rhan o fanylion y prif lety, megis tir.
-
- W
- X
- Y
- ZBack to top
