llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:

Pa eiddo busnes/annomestig sy'n gymwys i gael eu heithrio rhag talu ardrethi busnes?

Caiff mathau penodol o eiddo eu heithrio rhag talu ardrethi busnes. Nid ydym yn asesu'r mathau hyn o eiddo ar gyfer gwerth ardrethol.

Mae'r mathau o eiddo a gaiff eu heithrio'n cynnwys:

  • tir ac adeiladau amaethyddol , gan gynnwys ffermydd pysgod
  • adeiladau a ddefnyddir ar gyfer lles pobl anabl neu i'w hyfforddi
  • adeiladau sydd wedi'u cofrestru fel mannau addoli crefyddol cyhoeddus a neuaddau eglwys.

Ceir rhestr lawn o'r mathau o eiddo a gaiff eu heithrio yn Atodlen 5 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Gall mathau eraill o eiddo - megis eiddo a feddiannir gan elusennau - fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi.