
Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:
Beth yw raglen?
Rhaglen yw grŵp o apeliadau yr ymdrinnir â hwy ar yr un pryd.
Caiff pob achos ei drafod yn unigol ond byddwn yn dwyn ynghyd apeliadau ar gyfer eiddo tebyg neu gysylltiedig, mewn ardal ddaearyddol benodol, mewn 'rhaglenni'. Mae'r rhaglenni hyn yn caniatáu cyfnod penodol o amser i gynnal trafodaethau ac yn nodi dyddiad dechrau a dyddiad targed ar gyfer y trafodaethau hynny. Maent yn ein helpu i ddelio ag apeliadau'n fwy effeithiol drwy ddwyn ynghyd yr holl dystiolaeth berthnasol ar gyfer yr eiddo hwnnw.
Rydym yn cyhoeddi rhaglenni drafft yn rheolaidd fel y gallwch sicrhau bod eich apêl yn y grŵp priodol a chysylltu â ni os bydd gennych unrhyw sylwadau.
Byddwn yn ysgrifennu atoch pan fydd fersiwn terfynol eich rhaglen wedi'i gadarnhau i roi gwybod i chi am ddyddiadau'r cyfnod trafod ac unrhyw fanylion perthnasol eraill, gan gynnwys â phwy y mae angen i chi gysylltu.