llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:

Pam bod fy eiddo wedi'i asesu ar gyfer y dreth gyngor ac ardrethi busnes?

Os caiff rhan o eiddo ei ddefnyddio fel llety byw yna caiff y rhan honno ei hasesu ar gyfer y dreth gyngor yn hytrach nag ardrethi busnes.

Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

  • llety'r perchennog mewn lleoliad gwely a brecwast
  • ystafelloedd y staff mewn gwesty
  • fflat uwchben siop neu dafarn.

Ni chaiff y rhan o'r eiddo a asesir ar gyfer y dreth gyngor ei hasesu ar gyfer ardrethi busnes. Ni fyddwch yn talu'r ddwy dreth ar yr un rhan o'r eiddo.