
Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:
Mae llai o ofod gwely yn fy llety gwyliau hunanarlwyo na'r hyn a brisiwyd gennych - a yw fy ngwerth ardrethol yn rhy uchel?
Nid yw gwahaniaeth yn nifer y gofodau gwely sengl o reidrwydd yn golygu bod y gwerth ardrethol yn anghywir ond efallai y bydd yn rhaid i ni adolygu'r manylion sydd gennym.
A fu newidiadau strwythurol i'r llety?
Os bu newidiadau strwythurol i'r eiddo sy'n newid ei faint, cysylltwch â ni. Dywedwch wrthym beth a wnaed a phryd y gwnaed hynny.
A yw manylebau'r ystafelloedd wedi newid?
Os yw nifer y gofodau gwely wedi newid o ganlyniad i newidiadau ym manylebau'r ystafelloedd (er enghraifft, cyfnewid yr ardal fyw a'r brif ystafell wely), cysylltwch â ni. Os gellir cadarnhau'r nifer newydd o ofodau mewn llyfryn neu mewn rhestr ar-lein, anfonwch y manylion atom.
Cwestiynau Cyffredin perthnasol ac yn helpu i dudalennau
- Sut rydym yn prisio bythynnod gwyliau a llety hunanarlwyo
- Mae gennyf eiddo gwyliau hunanarlwyo - pam fy mod wedi derbyn prisiad ar gyfer ardrethi busnes?
- O ble y daeth y wybodaeth ar y prisiad am fy llety gwyliau hunanarlwyo?
- Sut y gwnaethoch bennu gwerth ardrethol ar gyfer fy llety gwyliau hunanarlwyo?
- Beth yw ystyr gofod gwely sengl?
- Pam y caiff lletyau gwyliau hunanarlwyo eraill eu prisio am lai o ofodau gwely na'r hyn a hysbysebir ganddynt?
- Nid wyf yn defnyddio'r eiddo hwn fel llety gwyliau mwyach - beth y dylwn ei wneud nawr?
- Anfonais fy nerbynebau atoch - a ydych wedi ystyried y rhain?