
Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:
Beth yw ystyr gofod gwely sengl?
Nifer y gofodau gwely sengl mewn eiddo yw'r nifer o bobl sy'n gallu cysgu yno.
Caiff y gwerth ardrethol ar gyfer llety gwyliau hunanarlwyo ei bennu drwy edrych ar nifer y gofodau gwely sengl sydd ynddo. Defnyddir y dull hwn o nodi gwerth ar gyfer llety hunanarlwyo yn gyffredinol ar draws y diwydiant: caiff eiddo eu hysbysebu fel 'lle cysgu i 6' neu 'lle cysgu i 4'.
Nid ydym yn cynnwys crud na gwely soffa a ddefnyddir yn achlysurol mewn ardaloedd byw yn nifer y gofodau gwely sengl oni bai y cânt eu defnyddio'n gyffredinol mewn eiddo o'r math neu o'r maint hwnnw. Er enghraifft, bydd chalets neu fflatiau cynllun agored fel arfer yn cyfrif gwelyau soffa yn y nifer o welyau a hysbysebir felly rydym yn eu cynnwys wrth brisio'r math hwnnw o eiddo.
Caiff gwelyau bync bob amser eu hystyried yn ofod gwely sengl.
Cwestiynau Cyffredin perthnasol ac yn helpu i dudalennau
- Sut rydym yn prisio bythynnod gwyliau a llety hunanarlwyo
- O ble y daeth y wybodaeth ar y prisiad am fy llety gwyliau hunanarlwyo?
- Mae llai o ofodau gwely yn fy llety gwyliau hunanarlwyo na'r hyn a brisiwyd gennych - a yw fy ngwerth ardrethol yn rhy uchel?
- Pam y caiff lletyau gwyliau hunanarlwyo eraill eu prisio am lai o ofodau gwely na'r hyn a hysbysebir ganddynt?