Ateb:
Ailbrisiad yw'r adolygiad rheolaidd o werthoedd ardrethol pob eiddo busnes a phob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr.
Yn ôl y gyfraith rydym yn cynnal ailbrisiad bob pum mlynedd. Rydym yn newid y gwerthoedd ardrethol er mwyn iddynt adlewyrchu'r farchnad rhentu ar y dyddiad prisio newydd.
Nid yw ailbrisio yn codi unrhyw refeniw ychwanegol i'r llywodraeth: mae'n ailddosbarthu'r swm a delir gan fusnesau yn seiliedig ar newidiadau yn y farchnad rhentu. Bydd galw mwy am rai ardaloedd felly bydd y gwerthoedd yn cynyddu mewn perthynas â'r cyfartaledd cenedlaethol. Mewn ardaloedd eraill bydd y galw a'r gwerthoedd yn gostwng mewn perthynas â'r cyfartaledd cenedlaethol.
Bydd y llywodraeth yn newid y lluosydd fel bod y bil ardrethi busnes cenedlaethol cyffredinol yn aros yr un peth ar ôl yr ailbrisiad ag o'r blaen.
