
Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:
Mae cwmni wedi cysylltu â mi sy'n dweud y byddant yn apelio ar fy rhan - a ddylwn eu defnyddio?
Cyn cyflogi unrhyw un sydd wedi cysylltu â chi, gwnewch yn siŵr bob amser eu bod yn ddibynadwy.
Gallwch apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol eich hun ar ein gwefan. Mae hyn yn rhad ac am ddim. Gallwch ddewis cyflogi asiant ardrethi yn lle hynny. Os gwnewch hynny, dylech wneud yn siŵr eu bod yn ddibynadwy cyn llofnodi unrhyw gontract. Rydym yn argymell eich bod yn cyflogi asiant sy'n perthyn i un o'r cyrff proffesiynol .
Bydd asiantau dibynadwy am archwilio eich eiddo a/neu weld y cyfrifon cyn amcangryfif unrhyw arbediad y credant y gallant ei wneud i chi. Efallai na fydd newid yn y gwerth ardrethol yn gwneud gwahaniaeth i'r swm rydych yn ei dalu .
Os bydd rhywun yn cysylltu â chi yn cynnig apelio ar eich rhan, byddwch yn ofalus. Mae rhaicwmnŵau nad ydynt yn rhai dibynadwy a fydd yn galw'n ddiwahoddiad - dros y ffôn, dros e-bost neu wyneb yn wyneb - gan gynnig arbedion sylweddol i chi ar eich bil.
Cyn cyflogi rhywun sy'n cysylltu â chi dylech wneud y pethau canlynol:
- Gofyn cwestiynau manwl am eucostau am y gwasanaeth.
- Gofyn a ydynt ynperthyn i un o'r cyrff proffesiynol, a gofyn i'r corff proffesiynol am fanylion amdanynt os enwir un ganddynt.
- Gofyn am eirdaon a chysylltu â hwy: dylent allu rhoi rhestr o gwsmeriaid bodlon i chi eu ffonio.
- Darllen y telerau a'r amodau a ddarperir ganddynt yn drwyadl.
Os bydd rhywun yn honni ei fod yn dod o Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gofynnwch am gael gweld ei fanylion adnabod. Byddwn fel arfer yn ffonio ymlaen llaw os oes angen i ni ymweld â'ch eiddo a byddwn yn cario ein manylion adnabod bob amser. Nid ydym yn cyflogi cwmnŵau i weithio ar ein rhan.