llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:

Beth yw'r weithdrefn ar gyfer apelio?

Mae apêl yn erbyn gwerth ardrethol yn dechrau drwy wneud cynnig i newid y rhestr ardrethu. Mae'r broses yn rhad ac am ddim.

Ceir terfynau amser ar gyfer gwneud cynnig.

  • rhestrau 2005

Os byddwn yn newid eich gwerth ardrethol ar gyfer 2005 yna gallwch wneud cynnig o fewn chwe mis o'r dyddiad y gwnaed y newid.

  • rhestrau 2010

Gellir gwneud cynigion ynglŷn â gwerth ardrethol 2010hyd at 31 Mawrth 2015.

Cyn gwneud cynnig, gallwch gysylltu â'ch swyddfa brisio leol i drafod eich gwerth ardrethol ac i drafod pam eich bod am apelio yn ei erbyn. Efallai y byddwn yn gallu datrys y mater heb i chi orfod dilyn gweithdrefn ffurfiol.

Gallwch wneud cynnig [beginsearch_d.html] ar-lein: bydd ein gwefan yn eich tywys drwy bob cam o'r ffurflen. Neu gallwch lawrlwytho'r ffurflen gynnig a'i hanfon atom.

Bydd angen i chi roi rheswm dros wneud cynnig. Nodwch y rhesymau ar y cynnig, gan gynnwys cyfeiriad a chod post unrhyw eiddo arall rydych yn cymharu'ch eiddo chi ag ef.

Pan fyddwn wedi derbyn eich cynnig byddwn yn ei gydnabod fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith ac yn gwneud yn siŵr bod y cynnig yn ddilys. Golyga hyn y byddwn yn gwneud yn siŵr bod y ffurflen wedi'i llenwi'n gywir ac y gallwn dderbyn y rheswm dros wneud cynnig. Nid yw'n golygu y byddwn yn derbyn bod y gwerth ardrethol yn anghywir.

Os yw'r cynnig yn ddilys, byddwn yn cysylltu â chi i'w drafod. Efallai y byddwn yn trefnu ymweliad â'r eiddo i wneud yn siŵr bod y manylion cywir gennym.

  • Os byddwn yn derbyn bod y gwerth ardrethol yn anghywir, byddwn yn ceisio cytuno ary gwerth ardrethol cywir gyda chi.
  • Os byddwch yn derbyn bod y gwerth ardrethol yn gywir, byddwn yn gofyn i chi dynnu'r cynnig yn ôl.
  • Os na allwn ddod i gytundeb, cewch gyfle i'r apêl gael ei chlywed gan Dribiwnlys Prisio annibynnol.

Gallwch ddarllen ein help cam wrth gam gyda'r broses apelio sy'n nodi beth fydd yn digwydd ar bob cam, gan gynnwys yr hyn y bydd angen i chi ei wneud a phryd.