Isod fe welwch yr ateb i’r cwestiwn:
A fyddwch yn archwilio fy eiddo os byddaf yn apelio?
Ateb:
Ni fydd angen i ni ymweld â'ch eiddo bob tro os byddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad neu i apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol .
Mae p'un a fydd angen i ni gynnal ymweliad yn dibynnu ar y math o ymholiad neu apêl a wnaed gennych a sut y mae'n cyfateb â'r wybodaeth sydd gennym eisoes. Er enghraifft, os mai 'newid materol' sy'n effeithio ar yr ardal gyfan, yna efallai na fydd angen i ni ymweld â phob eiddo er mwyn asesu effaith y newid.
Os bydd angen i ni ymweld â'ch eiddo byddwn yn cysylltu â chi yn gyntaf i drefnu adeg gyfleus. Byddwn yn dangos ein cerdyn adnabod i chi bob tro.
