
Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:
Beth am fy eiddo gwag? A fyddaf yn cael unrhyw fath o ryddhad ar gyfer hwnnw?
Cewch eich eithrio rhag talu ardrethi busnes ar eiddo gwag am dri mis ar ôl i'r eiddo ddod yn wag.
Ceir eithriadau ychwanegol ar gyfer mathau penodol o eiddo, neu ar gyfer eiddo sydd o dan werth ardrethol penodol:
- Caiff safleoedd diwydiannol, fel warysau, eu heithrio am dri mis arall.
- Caiff adeiladau rhestredig gwag eu heithrio nes y cânt eu meddiannu eto.
- Caiff adeiladau gwag sydd â gwerth ardrethol islaw £2,200 eu heithrio nes y cânt eu meddiannu eto.
- Caiff adeiladau gwag sydd â gwerth ardrethol 2005 islaw £15,000 eu heithrio tan 31 Mawrth 2010. Daeth yr eithriad dros dro hwn i rym ar 1 Ebrill 2009.
Ar ôl i'r cyfnod eithrio ddod i ben, byddwch yn talu'r swm llawn o ardrethi busnes.
Dylech gysylltu â'ch cyngor lleol i roi gwybod iddynt os bydd eich eiddo'n dod yn wag.