
Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:
Sut y mae'r rhyddhad ardrethi busnesau bach yn gweithio yn Lloegr?
Caiff rhyddhad ardrethi busnesau bach ei weinyddu gan eich cyngor lleol. Mae'r system yn amrywio rhwng Cymru a Lloegr.
Byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach os yw eich gwerth ardrethol islaw £17,999.
Gwerth ardrethol 2010 Y rhyddhad sydd ar gael
llai na £6,000
- Defnyddir y lluosydd ardrethi busnesau bach.
- Caiff y bil ei ostwng 50%.
o £6,000 i £11,999 cynhwysol
- Defnyddir y lluosydd ardrethi busnesau bach.
- Caiff y bil ei ostwng ar raddfa symudol o 50% os yw'r gwerth ardrethol yn llai na £6,000 i 0% ar gyfer £11,999.
Er enghraifft, os yw'r gwerth ardrethol yn £9,000, caiff y bil ei ostwng 25%.
o £12,000 i £17,999 (£25,499 yn Llundain) cynhwysol
- Defnyddir y lluosydd ardrethi busnesau bach.
Mae gennyf fwy nag un eiddo busnes: a fyddaf yn dal i gael y rhyddhad?
Os oes gennych fwy nag un eiddo busnes, bydd y rhyddhad ond ar gael os yw gwerth ardrethol pob eiddo arall islaw £2,600. Os felly, caiff gwerthoedd ardrethol pob eiddo eu cyfuno a chaiff y rhyddhad ei gymhwyso ar gyfer y prif eiddo, yn seiliedig ar gyfanswm y gwerth ardrethol.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth.