llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:

A fyddaf yn talu mwy os bydd fy ngwerth ardrethol wedi cynyddu yn ystod yr ailbrisiad?

Ni fydd cynnydd yn y gwerth ardrethol o reidrwydd yn golygu cynnydd yn eich bil.

Pan geir ailbrisiad, bydd unrhyw newid yn eich bil yn dibynnu ar faint mae eich gwerth ardrethol wedi cynyddu o gymharu â'r cynnydd cenedlaethol ar gyfartaledd. Caiff eich bil ei gyfrifo drwy luosi eich gwerth ardrethol gyda'r lluosydd ac yna cymhwyso unrhyw ryddhad ardrethi rydych yn gymwys i'w gael. Yn yr ailbrisiad, caiff y lluosydd ei addasu i sicrhau y caiff yr un faint o dreth ei chasglu yn genedlaethol ar ôl ailbrisio ag o'r blaen, gan ganiatáu ar gyfer chwyddiant yn unig.

Gallwch gael amcangyfrif o'ch bil ardrethi.

Os bydd eich gwerth ardrethol wedi newid gyda'r ailbrisiad efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad trosiannol. Bydd hyn yn taenu effaith y newid dros amser.