llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:

Sut rydych yn pennu'r pris fesul metr sgwâr?

Rydym yn casglu manylion rhenti gwirioneddol a delir gan feddiannwyr a landlordiaid, ac yn eu rhannu'nbris fesul metr sgwâr.

Wrth i ni ddadansoddi'r dystiolaeth byddwn yn edrych ar ffactorau megis:

  • A oes telerau arbennig, megis cyfnodau di-rent
  • A oes rhai rhannau o'r eiddo sy'n fwy neu'n llai gwerthfawr nag eraill. Er enghraifft, pan fyddwn yn dadansoddi rhenti siopau, byddwn yn edrych ar ei hardaloedd manwerthu.
  • Os bu newid yn y gwerth ardrethol rhwng dyddiad y cytundeb rhentu a'r dyddiad prisio.

Bydd hyn yn rhoi ystod o brisiau fesul metr sgwâr i ni ar gyfer:

  • Y gwahanol fathau o eiddo yn yr ardal.
  • Y gwahanol rannau ymhob math o eiddo yn yr ardal.

Yna byddwn yn cymhwyso'r pris fesul metr sgwâr at bob eiddo unigol i bennu'r gwerth ardrethol.