llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:

Pam bod fy ngwerth ardrethol i yn uwch nag un fy nghymydog?

Efallai y gallwch gymharu'r dadansoddiad o'ch gwerth ardrethol chi gyda rhai eich cymdogion i weld pam eu bod yn wahanol.

Gallai eich gwerth ardrethol chi fod yn uwch nag un eich cymydog am sawl rheswm. Cymharwch y prisiadau i ganfod a yw'r eiddo:

  • Yn wahanol fath o eiddo, ac felly'n cael eu prisio'n wahanol.
  • Yn llai.
  • Wedi'i drefnu'n wahanol?
  • Wedi'i leoli mewn ardal llai gwerthfawr?

Sut y gall dwy siop ar yr un stryd gael gwerthoedd gwahanol?

Gall dwy siop gyfagos gael gwerth gwahanol am nifer o resymau. Er enghraifft:

  • Mae un mewn safle masnachu gwell.
  • Maent wedi'u trefnu'n wahanol - storfa fawr sydd â gwerth isel mewn un siop ac ardal fanwerthu fwy sydd â gwerth uwch yn y llall.
  • Mae gan un siop ffrynt mwy llydan yn wynebu'r stryd, sy'n cynyddu ei gwerth.
  • Mae un ohonynt yn llai hygyrch o'r stryd, sy'n gostwng ei gwerth.

Dysgwch fwy am y ffordd rydym yn prisio siopau.

Ni allaf weld unrhyw reswm dros y gwahaniaeth!

Os na allwch weld pam fod eich gwerth ardrethol yn uwch nag un eich cymydog, gallwch gysylltu â ni. Nodwch gyfeiriada chod post yr eiddo rydych yn cymharu eich eiddo chi ag ef yn eich ymholiad.