llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:

Pam bod fy ngwerth ardrethol wedi cynyddu?

Gall gwerth ardrethol eiddo newid am sawl rheswm.

Mae'r gwerth ardrethol yn seiliedig ar y gwerth rhentu blynyddol ar ddyddiad prisio penodol , pe bai ar gael i'w rentu. Rydym yn ailasesu gwerth ardrethol pob eiddo busnes ac eiddo annomestig bob pum mlynedd i ystyried newidiadau yn y farchnad rhentu. Gelwir hyn yn ailbrisiad .

Mae sawl rheswm pam y gall eich gwerth ardrethol fod yn uwch. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Cynhaliwyd ailbrisiad
  • Bu gwelliannau yn yr ardal sydd wedi cynyddu'r gwerth ardrethol ar gyfer pob eiddo tebyg yn yr ardal
  • Bu gwelliannau i'r eiddo sydd bellach yn cael eu hadlewyrchu yn y gwerth ardrethol.