
Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:
Sut y cyfrifir fy ardrethi?
Caiff eich bil ardrethi busnes blynyddol ei gyfrifo a'i gasglu gan eich cyngor lleol.
Bydd y cyngor yn lluosi'r gwerth arderthol a osodir gan y VOA gyda lluosydd a osodir gan lywodraeth ganolog. Mae'r lluosydd, a osodir gan yr adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Lloegr neu Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynrychioli nifer y ceiniogau ymhob punt o'r gwerth ardrethol a fydd yn daladwy mewn ardrethi busnes cyn cymhwyso unrhyw ryddhad neu ostyngiad. Caiff ei adolygu bob blwyddyn i adlewyrchu newidiadau mewn chwyddiant.
Dim ond darlun yn unig yw'r enghraifft uchod: mae'r lluosyddion yn amrywio ar draws Cymru a Lloegr.
Gallwch gael amcangyfrif o'ch bil ardrethi ar gyfer 2011-12. Bydd hwn yn defnyddio eich gwerth ardrethol ar gyfer 2010 a'ch lleoliad i roi amcangyfrif.
Hefyd mae nifer o gynlluniau rhyddhad ardrethi ar gael a allai effeithio ar eich bil. Bydd eich cyngor lleol yn gweinyddu'r rhain.
Rydym yn cyhoeddi rhestr o luosyddion cyfredol a lluosyddion blaenorol ar-lein.
Cwestiynau Cyffredin perthnasol ac yn helpu i dudalennau
- Sut y gallaf wneud cais am ryddhad trosiannol?
- Sut y mae'r rhyddhad ardrethi busnesau bach yn gweithio yn Lloegr?
- Sut y mae'r rhyddhad ardrethi busnesau bach yn gweithio yng Nghymru?
- Beth am fy eiddo gwag? A fyddaf yn cael unrhyw fath o ryddhad ar gyfer hwnnw?
- Gwybodae th am y lluosydd ardrethi busnes
- Gwybodaeth am ryddhad, gan gynnwys rhyddhad ardrethi busnes bach