
Rydych chi ar y'S Ateb Cwestiynau Cyffredin tudalen ar gyfer:
Ydw i'n gymwys i gael rhyddhad elusennol?
Caiff rhyddhad elusennol ei weinyddu gan eich cyngor lleol. Dylech gysylltu â hwy i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys ac i wneud cais am y rhyddhad.
Gall elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur wneud cais am ryddhad elusennol os defnyddir yr eiddo at ddibenion elusennol. Gall hyn leihau'r bil 80%. Mewn rhai ardaloedd gellid lleihau hyn hyd yn oed ymhellach drwy ryddhad dewisol ychwanegol. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth.