lisa

Isod fe welwch yr ateb i’r cwestiwn:

Beth yw'r dyddiad dod i rym?

 

Dychwelyd i’r dudalen flaenorol

Ateb:Calendar

Y dyddiad dod i rym yw'r dyddiad y bydd unrhyw addasiad i'r gwerth ardrethol yn gymwys, neu'n dod i rym.

Caiff gwerth ardrethol pob eiddo busnes ac eiddo annomestig ei asesu bob pum mlynedd mewn ailbrisiad. Bydd yr holl werthoedd newydd yn dod i rym ar yr un dyddiad (1 Ebrill 2010 ar gyfer rhestr ardrethu 2010). Bydd eich cyngor lleol yn cyfrifo eich bil o'r dyddiad dod i rym yn seiliedig ar y gwerth ardrethol.

Os gwneir newidiadau i'r ardal neu'r eiddo a fydd yn newid gwerth ardrethol yr eiddo, caiff gwerth ardrethol newydd ei bennu. Bydd y gwerth newydd hwn yn dod i rym o ddyddiad y newidiadau, nid y dyddiad pan addaswyd y gwerth ardrethol. Bydd eich cyngor lleol yn addasu eich bil i ystyried y newid yn y gwerth ardrethol o'r dyddiad dod i rym newydd hwn.

 

Cwestiynau cyffredin perthnasol a thestunau help