llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau

Mae'r eiddo wedi newid - caiff ei feddiannu'n wahanol nawr

Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol

Gallwch apelio os ydych yn credu bod angen rhannu neu uno eich eiddo.

  • Rhaniad yw pan gaiff un eiddo ei rannu'n ddau eiddo ar wahân neu fwy. Caiff pob uned wahanol ei hasesu ar gyfer ei gwerth ardrethol .
  • Uniad yw pan gaiff dau eiddo neu fwy eu huno i greu un eiddo gwahanol neu fwy. Caiff yr eiddo mwy neu'r eiddo gwahanol eu hasesu ar gyfer eu gwerthoedd ardrethol.

Bydd angen i chi roi manylion a'r dyddiad y gwnaed y newidiadau i'r eiddo. Efallai y byddwn am ymweld i gadarnhau'r ffurfwedd newydd.

Os na fu newid yn y ffordd y caiff yr eiddo cyfan ei feddiannu - hyd yn oed os yw rhan ohono bellach yn wag - ni fyddwn yn newid ei werth ardrethol na'r ffordd y caiff ei restru.

Beth i'w wneud nesaf