
Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau
Rydym ond yn meddiannu rhan o'r hyn y talwn amdano.
Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol
Mae p'un a fyddwch yn gallu apelio ar y sail hon yn dibynnu ar sut y caiff eich eiddo ei feddiannu.
Os na ellir rhoi rhan wag yr eiddo rydych yn berchen arno neu'n ei rentu ar osod ar wahân yna bydd yn rhaid i ni osod y gwerth ardrethol ar gyfer yr eiddo cyfan.
Os nad ydych yn berchen nac yn rhentu rhan wag yr eiddo, neu os gellir ei roi ar osod fel uned ar wahân ac y gwnaed ymdrechion i wneud hynny, efallai y byddwn yn rhannu'r eiddo.
- Efallai y caiff gwerth ardrethol rhan yr eiddo a feddiennir ei newid
- Efallai y bydd rhan wag yr eiddo'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi eiddo gwag.
Os byddwch yn dewis apelio ar y sail hon dylech nodi'r dyddiad y daeth y rhan honno o'r eiddo'n wag.
Beth i'w wneud nesaf
- Cysylltwch â'ch swyddfa brisio leol
- Cyn gwneud apêl: Gwiriwch eich manylion (rydym yn defnyddio'r manylion hyn i weithio allan eich gwerth ardrethol).
- Gwneud apêl