Rydych wedi dewis apelio ar y sail ganlynol:
Mae'r eiddo'n cael ei ddefnyddio at ddibenion domestig bellach.
Dychwelyd i hafan y broses apelio
Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol
Os byddwch yn newid defnydd eich eiddo o ddefnydd busnes/annomestig i ddefnydd domestig, dylech roi gwybod i ni. Efallai y gallwn ei newid o asesiad ardrethi busnes i'r dreth gyngor heb i chi orfod apelio.
Gallwch apelio os ydych yn credu nad yw eich eiddo'n eiddo busnes neu annomestig mwyach. Bydd angen i chi ddarparu rhesymau pam rydych yn credu hyn, a'r dyddiad y newidiwyd defnydd yr eiddo.
Os ydym yn cytuno y caiff yr eiddo ei ddefnyddio at ddibenion domestig yn unig yna byddwn yn asesu ei fand treth gyngor ac yn rhoi gwybod i'ch cyngor lleol am y newid defnydd.
Os defnyddir yr eiddo at ddibenion busnes a domestig, yna byddwn yn ei asesu fel eiddo cymysg . Byddwn yn ei asesu ar gyfer ardrethi busnes a'r dreth gyngor.
Dewiswch beth i'w wneud isod
Cysylltu â'ch swyddfa brisio leol
