
Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau
Mae'r eiddo bellach yn wag.
Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol
Nid yw'r ffaith bod eiddo'n wag yn sail ddilys ar gyfer apelio ar ei phen ei hun.
Mae'r gwerth ardrethol yn seiliedig ar werth rhentu'r eiddo ar ddyddiad prisio, nid ar ei feddiannaeth.
Gallwn ystyried gostwng y gwerth ardrethol os bu 'newid materol' i'ch eiddo a effeithiodd ar y gwerth ac a gyfrannodd at y ffaith bod yr eiddo'n wag. Os mai dyma'r achos, gallwch apelio i ostwng y gwerth ardrethol. Dylech nodi unrhyw newidiadau, gan gynnwys y dyddiad y cawsant eu gwneud, yn eich apêl.
Beth arall y dylech ei wneud?
Os daeth eich eiddo'n wag yn ddiweddar, dylech roi gwybod i'ch cyngor lleol oherwydd efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi eiddo gwag.
Beth i'w wneud nesaf
- Cysylltwch â'ch swyddfa brisio leol
- Cyn gwneud apêl: Gwiriwch eich manylion (rydym yn defnyddio'r manylion hyn i weithio allan eich gwerth ardrethol).
- Gwneud apêl