
Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau
Mae'r eiddo bellach yn adfeiliedig.
Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol
Gallwch apelio os ydych yn credu bod eich eiddo'n adfeiliedig. Bydd angen i chi ddarparu rhesymau pam rydych yn credu hyn.
Pan fyddwn yn prisio eiddo rydym yn cymryd yn ganiataol ei fod mewn cyflwr rhesymol ac y caiff ei gynnal. Mae hyn yn sicrhau tegwch drwy drin pob eiddo yn yr un ffordd.
Er mwyn i ni ystyried eich eiddo'n adfeiliedig, mae'n rhaid iddo fodloni'r meini prawf canlynol:
- Ni ellir ei feddiannu, ac
- Ni ellir ei atgyweirio ar sail economaidd.
Ni fyddwn yn ystyried eiddo'n adfeiliedig os yw mewn cyflwr gwael ond y gellid ei feddiannu.
Cyn apelio
Dylech gysylltu â ni cyn apelio
- os yw eich eiddo mewn cyflwr gwael i drafod a allwn ostwng y gwerth ardrethol
- os yw eich eiddo'n cael ei adnewyddu ar raddfa fawr .
Beth i'w wneud nesaf
- Cysylltwch â'ch swyddfa brisio leol
- Cyn gwneud apêl: Gwiriwch eich manylion (rydym yn defnyddio'r manylion hyn i weithio allan eich gwerth ardrethol).
- Gwneud apêl