llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau

Mae'r ardal wedi dirywio dros amser

Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol

Gallwch apelio os ydych yn credu nad yw eich gwerth adrethol yn adlewyrchu cyflwr yr ardal. Bydd angen i chi ddarparu rhesymau pam rydych yn credu hyn.

A ydym eisoes wedi ystyried y dirywiad?

Os yw ardal wedi dirywio dros sawl blwyddyn, bydd rhenti ar gyfer eiddo yn yr ardal fel arfer yn adlewyrchu hynny. Rydym yn cynnal ailbrisiad bob pum mlynedd sy'n asesu'r gwerth ardrethol yn seiliedig ar dystiolaeth o rentu. Caiff newidiadau yn yr ardal, a fyddai'n effeithio ar werth rhentu'r eiddo, eu hadlewyrchu yn y gwerth ardrethol newydd ar ôl yr ailbrisiad.

A fu newid mwy diweddar yn yr ardal?

Os bu newid materol i'r ardal, ers y dyddiad prisio, sydd wedi effeithio ar werth rhentu'r eiddo, gallwch apelio o hyd. Nodwch y newid neu newidiadau a'r dyddiad y cawsant eu gwneud ar eich apêl.

Beth i'w wneud nesaf