
Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau
Nid yw'r ardaloedd a ddefnyddir yn deg - mae siâp anarferol i'm siop.
Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol
Gallwch apelio os ydych yn credu nad ydym wedi defnyddio'r mesuriadau cywir ar gyfer ardaloedd eich eiddo. Bydd angen i chi roi rhesymau pam rydych yn credu hyn.
Beth yw'r broses o bennu ardal?
Mae'r broses o bennu ardal yn ddull safonol o fesur safleoedd manwerthu at ddibenion prisio. Mae'n cydnabod bod siopau o wahanolsiâp a maint i gael. Cyn apelio, dysgwch sut y mae'r broses o bennu ardal yn gweithio [video 03] a sut rydym yn mesur yr eiddo [video 06]. Fel arfer byddwn wedi ystyried siapau anarferol wrth brisio'r eiddo.
A oes gennym y manylion cywir ar gyfer eich eiddo?
Mae manylion y rhan fwyaf o eiddo ar gael ar ein gwefan. Gallwch eu gwirio ac anfon unrhyw newidiadau atom ni ar-lein. Byddwn yn edrych ar y manylion eto. Nid oes angen i chi gyflwyno apêl i ddweud wrthym am newidiadau.
Ateb cyflym
Os nad ydych yn credu y defnyddiwyd yr ardaloedd yn gywir ar gyfer eich eiddo chi neu os nad yw eich eiddo'n safle manwerthu, gallwch gysylltu â ni i drafod y prisiad.
Beth i'w wneud nesaf
- Cysylltwch â'ch swyddfa brisio leol
- Cyn gwneud apêl: Gwiriwch eich manylion (rydym yn defnyddio'r manylion hyn i weithio allan eich gwerth ardrethol).
- Gwneud apêl