
Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau
Mae cyfyngiad yn fy mhrydles felly dim ond ar gyfer masnach benodol y gellir defnyddio'r eiddo.
Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol
Y gwerth ardrethol yw gwerth rhentu eich eiddo ar y farchnad agored ar y dyddiad prisio.
Dyma'r gwerth ardrethol a fyddai ganddo petai'n wag ac i'w osod ar y farchnad agored ar y diwrnod hwnnw, o dan brydles atgyweirio ac yswirio lawn.
Os oes cyfyngiad ar y defnydd mewn cyfyngiad Cynllunio Gwlad a Thref y gellir ei orfodi'n gyfreithiol, dylech gysylltu â ni. Dylech sôn am fanylion y cyfyngiad.
Ni allwn ystyried unrhyw gyfyngiad ar brydles wrth asesu gwerth ardrethol yr eiddo.
Beth i'w wneud nesaf
- Cysylltwch â'ch swyddfa brisio leol
- Cyn gwneud apêl: Gwiriwch eich manylion (rydym yn defnyddio'r manylion hyn i weithio allan eich gwerth ardrethol).
- Gwneud apêl