llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau

Rwy'n credu bod eich mesuriadau o'm heiddo yn anghywir

Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol

Gallwch wirio'r ardaloedd a ddefnyddiwyd gennym yn y prisiad ac anfon unrhyw newidiadau atom ar-lein heb apelio.

Gallwch apelio ar y sail eich bod yn credu bod yr ardaloedd a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer eich eiddo yn anghywir a bod y gwerth yn anghywir o ganlyniad i hynny. Dylech wirio eich mesuriadau ac amlinellu unrhyw anghysondebau yn yr apêl. Caiff mesuriadau eich eiddo eu gwirio, a chytunir arnynt â chi fel rhan o'r broses apelio.

Nid oes angen i chi apelioi newid ardaloedd yr eiddo os credwch eu bod yn anghywir. Gallwch anfon unrhyw newidiadau atom ar-lein a byddwn yn gwirio'r mesuriadau eto.

Caiff unedau manwerthu eu mesur gan ddefnyddio system o bennu ardal . Os oes gennych uned fanwerthu bydd angen i chi ystyried ardaloedd wrth wirio'r mesuriadau sydd gennym ar gyfer eich eiddo.

Cyn apelio dylech wneud y canlynol

Mae ardaloedd y rhan fwyaf o eiddo ar gael ar ein gwefan.

Beth i'w wneud nesaf